25/06/2026
Cloc tref Rhuthun wedi ei enwebu ar gyfer gwobr genedlaethol
Mae’r prosiect sy’n canolbwyntio ar adfer Tŵr Cloc Cofeb Joseph Peers rhestredig gradd II yn Sgwâr Sant Pedr yn Rhuthun wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig, yn dilyn cais a gyflwynwyd gan y contractwr Rory Moore.

Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ym 1883 er cof am Joseph Peers, y Clerc i Ynadon Heddwch Sir Ddinbych, mae gan Gloc Tref Rhuthun hanes cyfoethog. Wedi’i ddylunio mewn arddull gothig gan y pensaer Fictoraidd John Douglas, roedd y cloc yn gweithio’n wreiddiol fel amserydd, i reoleiddio’r cyflenwad nwy ar gyfer goleuadau stryd y dref, yn ogystal â chloc a ffynnon ddŵr.
Yn 2023, fe gadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi £10.95 miliwn o gyllid grant i 10 o brosiectau cyfalaf sy’n ceisio diogelu treftadaeth, lles a chymunedau gwledig unigryw Rhuthun.
Gan weithio mewn partneriaeth â Phwyllgor Tŵr Cloc Rhuthun a Chyngor Tref Rhuthun cafwyd mwy o gyllid gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Clocaenog a £55,006 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, i gwblhau’r gwaith adfer.
Gan ddechrau ym mis Awst 2024, gwnaed gwaith adfer gan gontractwr cadwraeth profiadol o Sir Ddinbych, R. Moore Building Conservation Ltd, a chafodd y gwaith ei oruchwylio gan y pensaer cadwraeth Elinor Gray Williams.
Ar ôl cwblhau gwaith adfer Cloc Cofeb Joseph Peers ym mis Rhagfyr 2024, mae’r prosiect bellach ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig y DU yn y categori treftadaeth.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru – Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:
“Rydym yn falch o weld bod y gwaith o adfer Tŵr Cloc Cofeb Joseph Peers wedi ei gydnabod fel hyn.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd y prosiect hwn yn anrhydeddu hanes Rhuthun ac yn creu gwaddol i drigolion ac ymwelwyr.”
Dywedodd Llefarydd o R Moore Building Conservation:
“Mae cael bod ar restr fer ar gyfer Gwobrau Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig y DU yn fraint enfawr i bawb oedd yn rhan o waith adfer Tŵr Cloc Rhuthun.
“O safbwynt cadwraeth, roedd gan y prosiect amrywiaeth ddiddorol o heriau. Roeddem yn gallu cyfuno sgiliau crefft traddodiadol, ymchwilio gofalus a deunyddiau priodol i sicrhau dyfodol hirdymor strwythur hanesyddol pwysig. Fodd bynnag, yr hyn oedd yn gwneud y prosiect hwn yn arbennig oedd gweld cysylltiad cryf y gymuned leol trwy gydol y gwaith.
“Mae Tŵr y Cloc yng nghanol Rhuthun ac yn golygu llawer iawn i’r bobl leol. Mae’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan drigolion, ysgolion, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn dangos pa mor bwysig yw strwythurau hanesyddol wrth siapio synnwyr o le a pherthyn i bobl.
“Mae bod ar y rhestr her yn gydnabyddiaeth o wir ymdrech tîm. Rydym yn falch o fod wedi chwarae ein rhan wrth sicrhau bod y strwythur hynod hwn yn parhau i wasanaethu pobl Rhuthun am genedlaethau i ddod”.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect i adfer cloc y dref yn Rhuthun, mae’r enwebiad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad pawb dros y blynyddoedd diwethaf.
“Hoffwn ddiolch i Bwyllgor Tŵr Cloc Rhuthun a Chyngor Tref Rhuthun, am gydweithio a chefnogi Cyngor Sir Ddinbych i sicrhau’r cyllid sylweddol hwn, i gyflawni gwaith adfer gwerthfawr i’r adeilad hanesyddol hwn.
“Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod yr hanes sydd gennym yn y Sir, ac mae prosiectau fel y rhain yn sicrhau y gallwn addysgu cenedlaethau’r dyfodol hefyd”.