Gorffennaf 2026

02/07/2026

Prosiect yn anelu at wella gwytnwch safleoedd calchfaen yn Sir Ddinbych

Mae gwaith wedi dechrau i arolygu a mapio maint y rhywogaethau ymledol anfrodorol ar fryn Graig Fawr.

Mae Graig Fawr wedi’i leoli rhwng Gallt Melyd a Dyserth, ac mae wedi’i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o ganlyniad i’w gymunedau glaswelltir calchfaen ac mae arolwg wedi’i gynnal ar y safle yn ddiweddar gan Brosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd.

Mae Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd wedi'i ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur sy'n cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru a'i nod yw gwella gwytnwch a chyflwr pum safle glaswelltir a choetir calchfaen SoDdGA yn Sir Ddinbych.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a pherchnogion tir preifat, mae'r prosiect yn ceisio hwyluso rheolaeth a fydd yn gwella amrywiaeth nodweddion arbennig yn y safleoedd, cynyddu maint y cynefinoedd glaswelltir calchfaen a gwella cyflwr y cymunedau o blanhigion a'r ffawna cysylltiedig.

Mae llawer o rywogaethau ymledol anfrodorol o greigafal y gellir eu canfod yn y DU, ac mae sawl rhywogaeth o'r rhain yn bryder arbennig i'r safle hwn. Er bod creigafal yn blanhigyn poblogaidd ar gyfer yr ardd, wrth i’r blodau ddenu gwenyn ac wrth i’r aeron ddenu’r adar, mae'n hynod niweidiol i'n hardaloedd gwyllt, yn enwedig cynefinoedd prin fel glaswelltiroedd calchfaen. Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith ei fod yn tyfu'n gyflym, a gall ddominyddu bryniau cyfan yn gyflym iawn.

Mae ecolegwyr gyda chymorth tîm mynediad â rhaff ardystiedig Cymdeithas Masnach y Diwydiant Mynediad â Rhaff (IRATA) wedi dechrau arolygu'r brigiadau calchfaen sy'n edrych dros Lwybr Prestatyn - Dyserth i nodi rhywogaethau a dwysedd creigafalau sy'n bresennol ar Graig Fawr, ynghyd â rhywogaethau ymledol anfrodorol eraill fel y dderwen fythwyrdd (Quercus ilex) a’r driaglog goch (Centranthus ruber).

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Mae cefnogi a gwella ein bioamrywiaeth leol yn hanfodol bwysig ac yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Bydd y prosiect yn gwella cysylltedd cynefinoedd o fewn a rhwng y safleoedd gwarchodedig drwy reoli coridorau natur drwy greu ac adfer cynefinoedd sy’n eu cysylltu nhw a chyfyngu ar yr effeithiau y mae’r rhywogaethau ymledol hyn yn eu cael”.

Comments