llais y sir

Haf 2018

Cynllun Addysg Gymraeg wedi cael sêl bendith

Mae’r Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu addysg Cyfrwng Cymraeg yn y sir dros dair blynedd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (2017-2020) Sir Ddinbych, sy’n nodi sut bydd y Cyngor yn ceisio cyrraedd targedau a osodwyd yn genedlaethol.

Mae’r Cynllun yn nodi sut bydd yr awdurdod yn:

  • Sicrhau a datblygu digon o leoedd cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion ledled y Sir
  • Cefnogi’r cynnydd mewn sgiliau cyfathrebu ar lafar a sgiliau deall Cymraeg ym mhob lleoliad blynyddoedd cynnar
  • Codi'r safon a chynyddu faint o Gymraeg a addysgir mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Cynyddu cyfran y dysgwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf
  • Gwella cyraeddiadau yn y Gymraeg ac mewn pynciau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol ym mhob ysgol
  • Datblygu gweithlu cynaliadwy er mwyn cynnal darpariaeth y dyfodol

Meddai'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Cabinet Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r Gymraeg: “Mae gwella ansawdd addysg ac ansawdd ein hadeiladau ysgol yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor ac rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd diweddar, a gellir gweld manteision hyn ar draws y sir.

“Rydym am i holl blant a phobl ifanc y Sir adael addysg llawn amser gyda’r gallu a’r hyder i ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg.

“Rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiad cadarn drwy Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor i barhau i ganolbwyntio ar addysg cyfrwng Cymraeg a gweithio’n ddiflino i chwarae ein rhan o ran cyfrannu at darged Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.

Daw’r Cynllun hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad arolygu Estyn o wasanaethau addysg y sir, a oedd yn canmol dull y Cyngor o ddatblygu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.  Roedd wedi canfod: “Mae cynlluniau’r awdurdod ar gyfer cynyddu canran y dysgwyr mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn briodol uchelgeisiol, yn unol â’r targedau i gynyddu canran y pynciau a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sy’n addysgu llai na 50% ar hyn o bryd. Mae digon o leoedd ym mhob sector ar gyfer dysgwyr sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...