llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Diweddaru cegin Ysgol Gynradd yn y Rhyl

Mae cegin Ysgol Llywelyn yn y Rhyl wedi ei hadnewyddu a’u huwchraddio fel rhan o gam un y broses o gyflwyno Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Mae’r ychwanegiadau a’r uwchraddiadau newydd hyn yn cynnwys ailfodelu’r gegin gyfan, mwy o le storio gydag oergell a rhewgell cerdded i mewn newydd ac offer coginio newydd er mwyn coginio mwy o fwyd.

Ers mis Medi 2022, cyflwynwyd y cynnig Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn llwyddiannus i ddisgyblion Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2. Trwy gyflwyno’r cynllun fesul cam, bydd holl ddisgyblion ysgolion cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Yn ddiweddar, dechreuodd y Cyngor gynnig Prydau Ysgol am Ddim i holl ddisgyblion Blwyddyn 2 ysgolion cynradd yn Sir Ddinbych o 17 Ebrill.

Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn yr ysgol a bydd yn cynnwys estyniad bach a rhodfa o’r gegin i’r neuadd er mwyn darparu mwy o le bwyta.

Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r adnewyddiadau a’r uwchraddiadau newydd hyn i’r offer arlwyo a’r gegin yn galluogi’r awdurdod i gyflwyno’r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn llwyddiannus. Rwy’n falch o weld bod staff arlwyo’r ysgol, yn ogystal â’r plant sy’n derbyn y prydau yn elwa ohonynt.

Mae pryd o fwyd maethlon amser cinio yn hanfodol ar gyfer dysgu a datblygiad plentyn trwy gydol y diwrnod ysgol”.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...