Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn lansio cynllun newydd i allu Benthyca Tabled a Chromebook
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych wedi lansio cynllun benthyca dyfais yn ddiweddar a fydd yn galluogi aelodau llyfrgelloedd ledled y Sir i fenthyg tabled neu Chromebook o’u llyfrgell leol, yn union fel y buasent yn benthyca llyfr.
Mae llawer o wasanaethau erbyn hyn wedi symud ar-lein, o fancio i siopa, ac o gredyd cynhwysol i wneud cais am gerdyn bws, ac mae llyfrgelloedd eisiau helpu preswylwyr i gael mynediad i’r byd ar-lein a phrofi’r buddion o fod wedi cysylltu â’r byd ar-lein.
Mae defnyddio tabled, chromebook neu ffôn clyfar hefyd yn agor y gwasanaeth llyfrgell ddigidol i’r defnyddiwr, gan alluogi aelodau i lawrlwytho llyfrau, llyfrau sain, papurau newydd a chylchgronau 24/7.
Bydd gan y dyfeisiadau fynediad i’r we a bydd cyrsiau ar-lein ar gael os ydi pobl eisiau dysgu mwy am eu dyfeisiadau a’r gwasanaethau y maen nhw’n ei ddefnyddio i adeiladu eu sgiliau digidol.
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Sir hefyd yn rhan o’r Gronfa Ddata Cenedlaethol sy’n cynnig cardiau sim a data am ddim i bobl sy’n byw mewn tlodi data.
Dylai pobl sydd â mynediad i ffôn clyfar ond sy’n ei chael hi’n anodd talu am fynediad i’r we gysylltu â’u llyfrgell leol am fwy o wybodaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Bydd y gwasanaeth benthyca dyfais newydd hwn yn helpu pobl i fynd ar-lein ac i beidio â chael eu gadael ar ôl yn y byd digidol. Rwyf wrth fy modd yn gweld menter arall eto yn ein llyfrgelloedd sy’n cefnogi ein cymunedau lleol ac yn gwneud siŵr fod pawb wedi cysylltu â’r byd ar-lein.”
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth benthyca dyfais newydd.
