llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Gwarchod Bioamrywiaeth Sir Ddinbych

Yn 2019, pasiodd y Cyngor gynnig i ddatgan Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol. Ffurfiwyd gweithgor trawsbleidiol i oruchwylio datblygiad Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol.

Ymrwymodd y Cyngor hefyd i ddod yn Gyngor Di-garbon Net a Chyngor sy’n fwy Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Fel rhan o hynny penododd y Cyngor Gefnogwr Bioamrywiaeth i sbarduno’r gwaith o warchod ein planhigion a bywyd gwyllt lleol er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, yw Cefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor, ac yma mae'n ateb rhai o'n cwestiynau iddo.

Pam mae amddiffyn ein bioamrywiaeth yn bwysig i chi? 

Meddai: “Rwy’n cymryd fy swyddogaeth fel Cefnogwr Bioamrywiaeth o ddifrif calon, a gwae ni os nad ydym oll yn cydweithio ar hyn. Gallwn weld ein tirlun yn newid bob blwyddyn ac mae’n rhaid inni wneud rhywbeth ar unwaith.

Oes gennych chi unrhyw atgofion cynnar am sut yr arferai tiroedd lleol fod ar gyfer bywyd planhigion / natur?

Dwi’n cofio bod yn blentyn a gweld heidiau o löynnod byw yn yr ardd, ond mae’r rhain wedi mynd yn brin. Mae’n rhaid inni wneud rhywbeth ynglŷn â glöynnod byw a’r holl rywogaethau eraill sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd; arferai ein perthi fod yn gyforiog o fywyd gwyllt ac nid yw’n rhy hwyr inni adfer y sefyllfa.

Beth ydyn ni'n ei wneud yn Sir Ddinbych i roi hwb i'n bioamrywiaeth leol?

Mae gwarchod bioamrywiaeth yn arbennig o bwysig i mi, er lles dyfodol ein plant, ein hwyrion a’n hwyresau. Mae’n rhaid inni ddangos iddynt fod yno ffordd arall o fyw. Yn hytrach na chymryd gan fyd natur o hyd, mae’n rhaid inni roi rhywbeth yn ôl, does dim dewis.

Mae'r Cyngor yn rhoi rhywbeth yn ôl i fyd natur. Mae gennym tua 115 o ddolydd blodau gwyllt sy’n dechrau denu gwenyn a glöynnod byw yn ôl, ymysg rhywogaethau eraill.

Mae gennym ein planhigfa ein hunain lle’r ydym yn tyfu tua phum cant o goed a thua phum cant o flodau gwyllt bob blwyddyn. Rydym hefyd wedi plannu tua 17,000 o goed eleni, yn bennaf ar dir ysgolion lle bu’r disgyblion a’r athrawon yn cymryd rhan.

Sut mae'r gefnogaeth wedi bod i wella bioamrywiaeth gan gymunedau lleol? 

Mae’n fendigedig gweld y cymunedau lleol yn gwirfoddoli i blannu’r coed a’r blodau gwyllt. Mae rhai cymunedau wedi ymgymryd â’r her Bioamrywiaeth â brwdfrydedd mawr; ni allaf ddiolch digon iddynt am wirfoddoli. Rydw innau wedi gwirfoddoli ambell waith a bu’n braf cwrdd â gwirfoddolwyr eraill a oedd yn rhoi o’u hamser i wneud y gwaith pwysig hwn. Ni allaf ddiolch digon iddynt.

Beth fuoch eich profiadau yn helpu gyda'r gwirfoddolwyr? 

Fy neges i bawb sy’n byw yn Sir Ddinbych yw gwirfoddolwch, da chi, gan wybod y bydd rhoi ychydig o’ch amser yn dod â boddhad mawr ichi. Os na fedrwch ymuno â ni yn ein sesiynau plannu, byddai plannu coeden yn eich gardd eich hun yn gyfraniad pwysig at hybu bioamrywiaeth.

Gall pob un ohonom wneud rhywbeth er lles y blaned a Sir Ddinbych.

Os hoffech wirfoddoli i helpu gyda’r gwaith bioamrywiaeth yn y sir, neu awgrymu rhywle addas ar gyfer cynllun bioamrywiaeth newydd, anfonwch e-bost i bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...