Mae digwyddiadau ‘Hwb y Dyfodol’ Conwy a Sir Ddinbych yn anelu i roi hwb i ddyfodol ein bobl ifanc
Roedd Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cydweithio yn ddiweddar i greu eu digwyddiadau ‘Hwb y Dyfodol’, a ddyluniwyd i helpu pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed i gymryd rheolaeth o’u dyfodol.

Roedd y cyntaf o’r digwyddiadau wedi ei gynnal yn y Ganolfan Ieuenctid yn y Rhyl, o dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych a Sir Ddinbych yn Gweithio. 
Roedd yr ail yn cynnwys Prosiect Cynnydd Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy yn cynnig llety yng Nghoed Pella, Bae Colwyn.
Nod y digwyddiadau hyn oedd i roi cyngor a gwybodaeth i bobl ifanc ar faterion oeddent yn wynebu yn ddyddiol, helpu i baratoi pobl ifanc er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau hysbys ar faterion sy’n effeithio ar eu sefyllfa bresennol a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Roedd timau’r cyngor wedi eu cefnogi gan amrywiol sefydliadau partner, y cyfan yn cynnig ystod o gefnogaeth ynglŷn â materion gan gynnwys:
- Cyllid a Budd-daliadau
- Tai
- Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant
- Lles
- Byw’n Iach
Yn dilyn y digwyddiadau hyn, gobeithio y bydd digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal yn ystod misoedd yr haf.
