Rhaglen Cynnal a Chadw Priffyrdd 2023/24
Rydym yn gyfrifol am 1,400km o rwydwaith ffyrdd ac yn 2022/23 rhoddwyd wyneb newydd ar 53km o’n ffyrdd. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau, a phennir y rhain yn ddibynnol ar gyflwr y ffordd. Mae’r dulliau a ddefnyddir fel a ganlyn:
- Micro-asffalt a thrin arwyneb ffyrdd i’w hatal rhag dirywio - mae’r rhain yn arbed arian yn yr hirdymor - strategaeth ‘un pwyth mewn pryd sy'n safio wyth”.
- Trwsio ffyrdd eraill i’w hachub rhag dirywio.
- Rhoi wyneb newydd yn y ffordd arferol.
Yn rhifyn Mawrth 2023 o Lais y Sir, eglurwyd proses y rhaglen cynnal a chadw priffyrdd ac mae Aelodau bellach wedi cytuno ar y rhaglen ar gyfer 2023/24. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru’n rheolaidd unwaith y bydd ffyrdd wedi’u cwblhau.
Mae triniaethau fel ‘micro-arwynebu’ a thrin y wyneb yn sensitif i dymheredd ac felly’n cael eu rhaglennu’n gynt yn y tymor na gwaith eraill.
Bydd map proses yn cael ei gynnwys yn un o rifynnau Llais y Sir yn y dyfodol.
Mae Rhaglen Ail Wynebu 2023-24 ar gael ar ein gwefan.