llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Haid o adar enwog yn Sir Ddinbych yn disgwyl am aelodau newydd

Mae cartref enwog haid o adar yn Sir Ddinbych yn barod am ei aelodau newydd.

Ymunodd gwirfoddolwyr â staff Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor i baratoi safle nythfa’r Môr-wenoliaid Bach yng Ngronant.

Bydd y Môr-wenoliaid Bach yn hedfan yn ôl i’r ardal o Orllewin Affrica ddiwedd mis Ebrill i fagu yn y cynefin nythu y mae’r traeth yn ei gynnig, sef cymysgedd o raean a thywod.

Traeth Gronant ger Prestatyn yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol gan ei bod yn cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU yn ogystal ag ategu at heidiau eraill o’r Môr-wenoliaid bach.

Ers dros 20 mlynedd, mae staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi arwain y ffordd, gyda chefnogaeth gan bartneriaid, i amddiffyn haid traeth Gronant.

Y llynedd, cadarnhawyd cyfanswm o 209 o adar ifanc, yr ail nifer uchaf ar gofnod yng Ngronant.

Gan weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr o Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru, mae staff Cefn Gwlad wedi paratoi’r ardal i annog yr adar sy’n hedfan i mewn i fagu’n ddiogel. 

Mae ffens derfyn 3.5km a ffens drydan 3km wedi eu gosod o amgylch y nythfa i amddiffyn yn adar rhag ysglyfaethwyr ar y tir. Bydd y rhain yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor nythu i sicrhau polisi dim olion yn yr ardal sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  

Yn gynnar ym mis Mai, bydd staff yn y ganolfan ymwelwyr ger y safle unwaith eto i helpu i fonitro cynnydd y nythfa ac amddiffyn yr adar.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym mor ddiolchgar i’r gwirfoddolwyr am helpu i baratoi’r safle nythu ar gyfer y môr-wenoliaid bach ac yn enwedig am eu holl gefnogaeth i’r prosiect pwysig hwn drwy gydol y tymor.

“Mae ein timau Cefn Gwlad hefyd yn gweithio’n hynod o galed i amddiffyn y nythfa hon a chynnal ei bioamrywiaeth i’r adar, ac ynghyd â’r gwirfoddolwyr, gallant fod yn falch iawn o’u gwaith.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...