llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Gwasanaeth Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael Achrediad

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (AGDdC), sef gwasanaeth a redir ar y cyd gan Gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych, wedi derbyn Achrediad Gwasanaeth Archifau.

Mae Achrediad Archifau yn safon ansawdd y Deyrnas Unedig sy’n cydnabod perfformiad da ym mhob maes o ddarparu gwasanaeth archifau. Mae cael ei achredu yn dangos bod y gwasanaeth ar y cyd wedi cyrraedd safonau cenedlaethol a ddiffinnir yn glir mewn perthynas ag iechyd sefydliadol, rheoli casgliadau a’r gwaith a wneir gyda budd-ddeiliaid.

Mae gwasanaethau archifau Sir y Fflint a Sir Ddinbych wedi derbyn y dyfarniad hwn yn y gorffennol, ond dyma’r tro cyntaf i AGDdC gael ei achredu fel gwasanaeth ar y cyd. Gyda changhennau ym Mhenarlâg a Rhuthun, mae gan Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru gyfoeth o gofnodion hanesyddol unigryw ac adnoddau eraill sy’n ymwneud â chymunedau Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae yno bron i 5,000 o gasgliadau archif yn dyddio o 1138 i’r presennol. Mae’r eitemau hyn yn ffurfio cofnod heb ei debyg o’r rhanbarth ac yn darparu adnodd amhrisiadwy i ddefnyddwyr, cyrff swyddogol, y gymuned a’r gymdeithas ehangach nad yw ar gael yn unman arall.

Mae’r gwasanaeth ar y cyd yn dal dros fil metr ciwbig o ddogfennau i gyd, a’r rheiny wedi’u storio ar bron i saith milltir o silffoedd. Mae rhai o’r trysorau a gedwir yn cynnwys cofnodion Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych, Cofebion Rhyfel Sir y Fflint, Cofnodion y Llys Chwarter, llyfrau carcharorion Oes Fictoria, Albwm Rhyfel y Degwm a Chasgliadau nodedig o ystadau mawrion ledled Gogledd Ddwyrain Cymru.

Meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Boden:

“Mae achrediad AGDdC yn gyflawniad ardderchog ac yn adlewyrchu medrusrwydd ac ymrwymiad staff y gwasanaeth ar y cyd, sydd wedi creu sefydliad newydd llewyrchus a fydd yn diogelu treftadaeth archifol Gogledd Ddwyrain Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Bu i’r Panel Achredu longyfarch y gwasanaeth am ddod â’r ddau archifdy at ei gilydd o ran llywodraethu a mynediad. Er gwaethaf her amlwg y pandemig, cydnabuwyd fod y gwasanaeth wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran datblygu’r gweithrediadau’n gyfanwaith effeithiol. Nododd yr aseswyr hefyd bod tîm y staff yn amlwg yn ased i’r gwasanaeth, yn cyflwyno’n ddygn gyda gweledigaeth glir ar gyfer yr archifau.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth Sir Ddinbych:

“Rwy’n falch iawn bod y gwasanaeth wedi cyflawni’r anrhydedd glodfawr hon sy’n tystio i waith caled ac ymroddiad y tîm cyfan.”

Meddai’r Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

“Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn enghraifft ardderchog o awdurdodau lleol Cymru yn cydweithio, gan rannu gweledigaeth i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus gwych i’n cymunedau.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Achrediad Gwasanaeth Archifau, ewch i'w gwefan

I gael rhagor o wybodaeth am Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, ewch i'w gwefan

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...