llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Gweithiwr Cymdeithasol Sir Ddinbych wedi’i henwebu mewn gwobrau cenedlaethol

Mae un o weithwyr cymdeithasol y Cyngor wedi’i chydnabod yn ymgyrch ‘Amazing Social Workers 2023’ Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain (BASW) eleni am ei chyfraniadau rhagorol i’r proffesiwn.

Mae Anne Roberts yn ddirprwy reolwr tîm profiadol yn Nhîm Adnoddau Cymunedol y Cyngor ac mae wedi’i henwebu fel rheolwr gwaith cymdeithasol arbennig yn y gwobrau cenedlaethol.

Lansiwyd yr ymgyrch fel rhan o ddathliadau Mis Gwaith Cymdeithasol y Byd BASW ac mae’n gyfle unigryw i gydnabod a rhannu cyflawniadau gweithwyr cymdeithasol ar draws y DU ac i gydnabod a thalu teyrnged i’w gwaith nhw.

Gan siarad am ei henwebiad, dywedodd Anne: “Mae’n fraint cael fy enwebu am wobr o’r fath. Mae’r gwasanaethau sy’n rhan o ofal cymdeithasol wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd i, ar lefel bersonol a phroffesiynol. Drwy’r holl brofiadau yma gyda’i gilydd rydw i wedi datblygu dealltwriaeth ddyfnach o rôl gweithiwr cymdeithasol, a’r cymorth trawsnewidiol mae’n gallu ei ddarparu i bobl.

"Mae addysg yn werthfawr iawn i mi, ac mae Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu fy ngyrfa ac astudio ymhellach. Mae gweithio mewn amgylchedd mor gadarnhaol a gweithio gyda gweithwyr iechyd eraill wedi rhoi gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i mi, sy’n fy ngalluogi i gefnogi fy nhîm.

"Mae’n bleser gweithio gyda fy nghydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae’r tîm rydw i’n ei reoli’n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr gofal cymdeithasol, ymarferydd gofal cymdeithasol dementia a therapyddion galwedigaethol. Mae pob un ohonyn nhw mor weithgar ac yn cefnogi’r naill a’r llall. Maen nhw’n gwneud fy rôl i gymaint yn haws.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydw i’n falch iawn o glywed bod un o weithwyr cymdeithasol Sir Ddinbych wedi’u cydnabod ar lefel genedlaethol am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’w rôl a’u tîm.

"Mae ein gweithwyr cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn gweithio mor galed, felly mae’n braf gweld bod yr ymdrech wedi’i chydnabod gan Gymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain. Llongyfarchiadau mawr i Anne am y gamp aruthrol hon.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...