Am yr Arddangosfa
Bydd yr arddangosfa yn dangos gwisgoedd o ddrama hanesyddol y BBC, ‘Gentleman Jack’. Wedi’i ysgrifennu gan Sally Wainwright, mae’r gyfres yn adrodd hanes Anne Lister (1791 – 1849) o Shibden Hall a’i pherthnasau gyda’i theulu, gyda phobl busnes a gyda'r perchennog tir lleol Ann Walker (1803 – 1853). Wedi’u dylunio gan Tom Pye a’u creu gan Cosprop Ltd, gellir gweld y gwisgoedd ar hyd Tŷ Hanesyddol Plas Newydd, yn yr arddangosfa wisgoedd gyntaf erioed yn y tŷ.

Anne Lister a Merched Llangollen
Ym 1780, tynnodd y Foneddiges Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby, sef ‘Merched Llangollen’ eu hunain o’r bywyd aristocrataidd a sefydlu cartref gyda’i gilydd ym Mhlas Newydd. Gan gyfeirio at ei gilydd fel ‘anwylyd’, treuliasant dros 50 mlynedd gyda’i gilydd, a throsi eu cartref i leoliad rhamantus gothig, a’r gerddi i hafan o heddwch a llonyddwch ymarferol. Roedd cyfoedion wedi’u rhyfeddu ganddynt ac yn dathlu eu ffordd o fyw, ac fe groesawon nhw nifer o bobl enwog i’w cartref.
‘’I am interested about these 2 ladies very much. There is something in their story and in all I have heard about them here that… makes a deep impression’’.
Anne Lister, Gorffennaf 1822
Un o’r ymwelwyr i Blas Newydd oedd Anne Lister (Gentleman Jack), perchennog tir, dynes fusnes, teithiwr anturus a dynes lesbiaidd. Yn debyg i’r Merched, nid oedd Anne yn cydymffurfio â disgwyliad y gymdeithas o ddynes y cyfnod, a chafodd ei hysbrydoli gan fywyd a chartref y Merched.
Ymweld
Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Nhŷ Hanesyddol a Gerddi Plas Newydd, o 1 Ebrill 2023 i 1 Hydref 2023. Mae Plas Newydd ar agor i’r cyhoedd bob dydd o 10am – 4pm drwy gydol tymor 2023.
Mae’r arddangosfa wisgoedd wedi’i gynnwys gyda mynediad i Dŷ Hanesyddol Plas Newydd.
