Cylchgronau Digidol
Arbedwch arian wrth brynu'ch hoff gylchgronau a'u lawrlwytho am ddim gyda'ch cerdyn llyfrgell. Gellir lawrlwytho cylchgronau digidol am ddim, 24/7 a dim rhestrau aros.
Mae cannoedd o gylchgronau ar gael, gan gynnwys BBC Good Food, Amatur Photographer, BBC Gardeners World, Radio Times, Good Housekeeping, Auto Express a Time.
I ddechrau mwynhau cylchgronau digidol, lawrlwythwch yr ap arobryn Libby, neu ewch i wefan y llyfrgell. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw eich cerdyn llyfrgell a PIN. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgell mae’n gyflym ac yn hawdd ymuno ar-lein.
Ewch i www.sirddinbych.gov.uk/llyfrgelloedd am ragor o wybodaeth.