19/01/2026
Cyngor Sir Ddinbych yn croesawu Prif Weithredwr newydd
Mae Helen White wedi ymuno â Chyngor Sir Ddinbych heddiw (19 Ionawr) fel Prif Weithredwr newydd.
Yn siaradwr Cymraeg a fagwyd yn Henllan, mae Helen wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol gyda Thai Taf ers 2019. Ar ôl dechrau ei gyrfa ym maes tai a datblygu cymunedol, mae gan Helen dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat.
Mae Helen yn ymuno â Chyngor a dderbyniodd ganmoliaeth yn ei Asesiad Perfformiad Panel ar ddiwedd 2024 am fod yn un sy’n cael ei ‘redeg yn dda’. Ond mae hefyd yn gyfnod allweddol i’r cyngor mewn cyfnod heriol wrth iddo barhau i gyflawni ei holl ddyletswyddau mewn ffordd gynaliadwy er budd hirdymor ei gymunedau.
Wrth fynd i’r afael â’i rôl newydd fel Prif Weithredwr, dywedodd Helen, “Mae'n anrhydedd i mi fod yn ymgymryd â'r rôl Prif Weithredwr. Rwy'n ymwybodol ei bod yn gyfnod heriol i gynifer yn ein cymunedau, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ymroddedig i helpu i gael effaith gadarnhaol yn y sir ble cefais fy ngeni a'm magu.
"Hoffwn ddiolch i Arweinydd y Cyngor a'r holl Aelodau Etholedig eraill am roi eu ffydd ynof fel Prif Weithredwr newydd."
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor: “Mae’n bleser gen i groesawu Helen ar ei diwrnod cyntaf fel Prif Weithredwr gan ddod â phennod newydd o arweinyddiaeth i'n sir. Mae hwn wedi bod yn benodiad rhagorol ac mae ei phrofiad a’i llwyddiannau blaenorol, yn enwedig ym maes tai a datblygu cymunedol, yn cyd-fynd â gwerthoedd sefydliadol Sir Ddinbych.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Graham Boase am ei waith caled a'i ymroddiad i Gyngor Sir Dinbych yn ei rolau niferus dros sawl blwyddyn, ac wrth gwrs, yn fwyaf diweddar yn ei rôl fel Prif Weithredwr. Yn y rôl hon mae wedi arwain yr awdurdod yn fedrus trwy gyfnodau hynod heriol. Mae Graham wedi bod yn gefnogaeth enfawr i mi, ac rydym wedi gweithio'n dda gyda'n gilydd dros y blynyddoedd. Hoffwn ddymuno'r gorau iddo ar ei ymddeoliad.”
