Ionawr 2026

26/01/2027

Hamdden Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych yn goleuo atyniadau ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost

Yn ein hatgoffa nad yw cyfrifoldeb cofio yn dod i ben gyda'r goroeswyr - mae'n parhau i fyw trwy eu plant, eu hwyrion a thrwy bob un ohonom.

Bydd Hamdden Sir Ddinbych a Chyngor Sir Ddinbych yn goleuo eu hatyniadau mewn porffor ddydd Mawrth 27 Ionawr fel rhan o foment genedlaethol Goleuo'r Tywyllwch ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost.

Bydd Canolfan Grefft Rhuthun, Tŵr Awyr Y Rhyl, Theatr Pafiliwn Y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau, a llochesi arfordirol Sir Ddinbych i gyd yn cael eu goleuo mewn porffor i gefnogi’r ymgyrch hon o undod a choffáu.

Credyd Llun Hamdden Sir Ddinbych: Theatr Pafiliwn Y Rhyl, Bwyty a Bar 1891

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod o gofio i anrhydeddu’r miliynau a ddioddefodd ac a fu farw yn ystod yr Holocost. Mae hefyd yn coffáu hil-laddiadau eraill a gweithredoedd o drais torfol sydd wedi digwydd ledled y byd. Thema ymgyrch eleni yw Pontio’r Cenedlaethau, sydd wedi’i chynllunio i’n hannog i ymgysylltu â’r gorffennol, wrth wrando a chario’r gwersi a ddysgwyd ymlaen.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL:

“Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i oleuo ein hadeiladau a’n hatyniadau i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Gyda Phontio’r Cenedlaethau fel thema ymgyrch eleni, credwn ei bod yn hynod bwysig i ni i gyd wrando a dysgu o ddigwyddiadau’r gorffennol, a hefyd sicrhau bod y rhain yn llywio ein penderfyniadau yn y dyfodol ac yn ein helpu i herio a lleisio yn erbyn rhagfarn.”

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol:

“Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn amser i gofio’r miliynau o fywydau a gollwyd ac i fyfyrio ar bwysigrwydd sefyll yn erbyn casineb, rhagfarn a gwahaniaethu ym mhob ffurf. Drwy gofio’r gorffennol, rydym yn ailddatgan ein cyfrifoldeb ar y cyd i hyrwyddo caredigrwydd, dealltwriaeth a pharch o fewn ein cymunedau heddiw.”

Comments