20/01/2026
Y Cabinet yn cytuno ar y camau nesaf ar gyfer fframwaith cynnal a chadw ymatebol
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno dechrau’r broses ail-dendro ar gyfer ei Fframwaith Cynnal a Chadw Ymatebol, gan sicrhau darpariaeth barhaus o waith cynnal a chadw ac atgyweirio hanfodol ar draws adeiladau’r Cyngor.
Mae’r fframwaith presennol, sy’n cefnogi atgyweiriadau ymatebol mewn ysgolion ac eiddo eraill y Cyngor, yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2026.
Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn parhau heb ymyrraeth, ac i fodloni gofynion caffael, cymeradwyodd y Cabinet broses dendro newydd yn y cyfarfod diwethaf ym mis Chwefror.
Mae’r Fframwaith Cynnal a Chadw Ymatebol yn galluogi’r Cyngor i benodi contractwyr cymeradwy i gyflawni gwaith atgyweirio brys a rheolaidd, gan gynnwys gwaith trydanol, mecanyddol a gwaith adeiladu cyffredinol.
Mae’n cefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor trwy helpu i gadw adeiladau’n ddiogel ac yn weithredol, cefnogi contractwyr lleol, lleihau ymyrraeth i wasanaethau, gwarchod iechyd y cyhoedd, cynnal ysgolion a chyfleusterau addysgol a gwella effeithlonrwydd ynni trwy gynnal gwaith atgyweirio yn amserol.
Disgwylir i’r fframwaith newydd redeg am ddwy flynedd i ddechrau, gyda’r dewis i ymestyn am ddwy flynedd arall.
Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae gofalu am gyflwr ein hadeiladau yn hollbwysig ar gyfer darparu amrywiaeth o wasanaethau pwysig ledled y sir. Rwy'n falch ein bod wedi gallu cytuno heddiw i lansio'r broses ail-dendro ar gyfer y Fframwaith hwn, mewn fformat a ddylai barhau i annog cyfranogiad contractwyr lleol ac yn y pen draw ddarparu darpariaeth barhaus ar gyfer y gwaith cynnal a chadw a'r atgyweiriadau hanfodol yn adeiladau'r Cyngor.”