Ionawr 2026

20/01/2026

Gwaith yn mynd rhagddo'n dda yn Llyfrgell Corwen

Mae gwaith yn Llyfrgell Corwen yn mynd rhagddo'n dda ac mae'r prosiect bellach yn cyrraedd y camau olaf, a disgwylir i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau'n fuan.

Mae'r gwelliannau'n cael eu cyflawni diolch i £83,469 o gyllid gan Raglen Trawsnewid Cyfalaf Llywodraeth Cymru a byddant yn trawsnewid llawr gwaelod y llyfrgell yn ofod modern, croesawgar i'r gymuned leol.

Mae'r adnewyddu'n cynnwys creu ardal lyfrgell bwrpasol i blant, technoleg hunanwasanaeth newydd i wneud benthyca a dychwelyd llyfrau'n haws, a gosod technoleg Open+ i ganiatáu i aelodau cofrestredig gael mynediad i'r llyfrgell yn ystod oriau heb staff. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys ailaddurno'n llawn, desgiau a silffoedd arddangos newydd, a chyfleusterau staff wedi'u huwchraddio.

Tra bod y gwaith yn mynd yn ei flaen, mae staff y llyfrgell yn parhau i fod wrth law i gefnogi cwsmeriaid ac maent yn edrych ymlaen at groesawu trigolion yn ôl i'r gofod gwell yn fuan iawn.

Disgwylir i Lyfrgell Corwen, sydd newydd ei hadnewyddu, ailagor yn ddiweddarach y mis hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros yr Iaith, Diwylliant a Threftadaeth Cymru:

“Mae’n wych gweld y gwaith yn mynd rhagddo mor dda yn Llyfrgell Corwen. Bydd y gwelliannau hyn yn creu lle modern, croesawgar a fydd yn cefnogi darllen, dysgu a bywyd cymunedol am flynyddoedd i ddod.”

Am fwy o wybodaeth am ein llyfrgelloedd, ewch i'n gwefan.

Comments