Ionawr 2026

22/01/2026

Digwyddiad yn mynd i’r afael â sbwriel morol ar y traeth

Cynhaliwyd sesiwn casglu sbwriel yn ddiweddar i leihau effaith gollwng sbwriel ar draeth Prestatyn ar lifogydd lleol a’r amgylchedd cyfagos.

Tîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych wnaeth drefnu’r digwyddiad, a gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr lleol, buont yn rhoi sylw i ardaloedd y traeth ger maes parcio Dwyrain Nova.

Gall sbwriel morol rwystro dyfrffyrdd a draeniau, rhwystro llif dŵr ac achosi llifogydd lleol yn bellach i fyny’r ffrwd.

Trwy symud y sbwriel morol, mae mwy o help yn cael ei ddarparu i amddiffynfeydd naturiol yr ardal. Mae traethau glanach ac amgylcheddau arfordirol iach yn cynnwys twyni a gwelyau o forwellt, yn gallu cynnal eu swyddogaethau naturiol yn well fel amddiffynfeydd môr.

Llwyddodd chwech ar hugain o wirfoddolwyr i gasglu 22 bag o sbwriel o’r traeth a’r ardal gyfagos ar y diwrnod. Darparodd Cadwch Gymru’n Daclus rhywfaint o’r offer casglu sbwriel a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad hefyd.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Roedd yn wych cael cefnogaeth gwirfoddolwyr i helpu i dacluso’r rhan hon o’r traeth a gobeithio y bydd Glanhau Traeth Prestatyn yn dod yn ddigwyddiad rheolaidd.

“Mae’r gwirfoddolwyr wedi helpu i leihau’r perygl o lifogydd lleol yn yr ardal hon ac effaith sbwriel ar yr amgylchedd, a hefyd wedi helpu i wella golwg y traeth i breswylwyr ac ymwelwyr a darparu help llaw i natur leol trwy symud pethau fel plastig a all fod yn niweidiol i rai mathau o fywyd gwyllt.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi eu hamser i ddod i gefnogi’r ymdrech hon i gasglu sbwriel. Mae monitro’r perygl o lifogydd o gwmpas traeth Prestatyn yn hynod o bwysig i breswylwyr lleol a’r amgylchedd cyfagos. A hefyd mae’n atyniad poblogaidd i’r dref a bydd ymdrechion y grŵp yn gwella’r ardaloedd i bobl fynd am dro ynddynt a’u mwynhau.”

Comments