Ionawr 2026

26/01/2026

Tîm arlwyo’n gweini danteithion i ddathlu pen-blwydd ysgol

Bu tîm arlwyo'r ysgol yn paratoi gwledd o ddanteithion i helpu i ddathlu pen-blwydd arbennig yn ddiweddar.

Dathlodd Ysgol Glan Clwyd 70 mlynedd ers ei sefydlu nos Wener, 23 Ionawr mewn digwyddiad gydag adloniant arbennig dan arweiniad Lisa Gwilym. Ymysg y gwesteion roedd Mark Drakeford, Ian Gwyn Hughes, Owain Roberts, Mair Edwards ac Elen Gwyn Williams.

Darparwyd perfformiadau ar y noson hefyd gan Steffan Rhys Hughes, Celyn Cartwright, Mared Williams a Meinir Llwyd.

Ar ôl darparu prydau iach i ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd drwy’r dydd, trodd y tîm arlwyo eu sgiliau at ddarparu bwydlen tair cwrs ar gyfer y dathliadau i'r mynychwyr ei mwynhau.

Gweithiodd y tîm yn galed i lunio bwydlen oedd yn cynnwys:

  • Tarten gaws Eryri gyda nionyn wedi ei garameleiddio
  • Cyw iâr wedi'i weini gyda saws cennin a gwin gwyn o Winllan y Dyffryn gyda detholiad o lysiau a thatws

Meddai Hayley Jones, Prif Reolwr Gwasanaethau Arlwyo a Glanhau: “Rwy’n falch iawn o’n tîm yn y Gwasanaeth Arlwyo am gamu ymlaen a darparu gwasanaeth sydd rhywfaint yn wahanol i’r  arfer. Roedd y gwaith a wnaethon nhw ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn yn wych ac yn enghraifft ardderchog  o ba mor fedrus yw ein timau arlwyo ysgolion ledled Sir Ddinbych.

Ychwanegodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd, “Mae ein timau arlwyo ysgolion yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn i gefnogi disgyblion a staff addysgu. Llongyfarchiadau i’r tîm Gwasanaethau Arlwyo am drefnu a pharatoi bwydlen mor wych i gefnogi carreg filltir bwysig iawn yn hanes yr ysgol.”

 

 

Comments