Ionawr 2026

13/01/2026

Cynnal a chadw dros y gaeaf i hybu cynefin ardal natur cymunedol

Mae safle natur yn Llanelwy wedi derbyn rhagor o gefnogaeth i helpu i hybu ei fioamrywiaeth yn nhymor y gwanwyn a haf 2026.

Gwnaeth tîm Hinsawdd Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaethau Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr ymuno i helpu i blannu 150 o goed ychwanegol yn Llecyn Natur Cymunedol Glan Elwy.

Crëwyd y safle yn 2024 yn rhan o Brosiect Creu Coetir y Cyngor a gafodd £800,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2023-25 ​​ar gyfer hyn a datblygiadau tebyg eraill yn y sir.

Mae Glan Elwy yn darparu cynefinoedd cryfach ar gyfer natur yn ogystal â gwell mynediad a chyfleusterau i drigolion hen ac ifanc eu mwynhau.  Mae'n rhoi cyfle i arsylwi a dysgu am fywyd gwyllt lleol, yn enwedig o'r platfform gwylio pwrpasol sydd wedi'i leoli wrth ymyl y llwybr troed cyhoeddus.

Gwnaeth timau ieuenctid clwb pêl-droed Dinas Llanelwy a Grŵp Gofal Elwy helpu i blannu bron i 2,000 o goed ar y safle yn wreiddiol ochr yn ochr â swyddogion y Cyngor a gwirfoddolwyr eraill.

Mae'r coed newydd a blannwyd ym mis Rhagfyr yn ategu stoc 2024, gan ystyried monitro parhaus ac ôl-ofal gan Geidwaid Cefn Gwlad drwy gydol y flwyddyn, ac yn cynnwys coed newydd yn lle rhai nad oedden nhw, yn anffodus, wedi goroesi'r cyfnodau hir o dywydd eithriadol o sych a gafodd y DU yn ystod y Gwanwyn a'r Haf. Cafodd y coed ychwanegol gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2025/26 sydd wedi rhoi £278,600 i Gyngor Sir Ddinbych ar gyfer gwaith adfer natur ledled y sir.

Mae'r gwaith cynnal a chadw yn ystod y gaeaf wedi rhoi cyfle i edrych ar ardaloedd plannu newydd ar y safle a chyflwyno gwahanol rywogaethau ac amrywiaethau o goed i gynyddu gwydnwch yn erbyn unrhyw sychder yn y dyfodol.

Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Matt Winstanley, sy’n rheoli datblygiad y safle: “Nid yw colli rhai coed ar dir ar raddfa’r safle hwn yn annisgwyl, yn enwedig o ystyried yr amodau sych eithriadol yr ydym ni wedi’u hwynebu. Roedd gwanwyn 2025 yn dymor digynsail o gynhesrwydd a heulwen a'r sychaf ers dros 50 o flynyddoedd, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

“Rydym ni’n datblygu ardal ychydig yn wahanol o’r safle er mwyn defnyddio’r tir gwell. Rydym ni wedi plannu coed derw, criafol, bedw arian, bedw cyffredin ac aethnenni. Dylai amodau graeanog yr ardal hon wrth ymyl yr afon fod yn addas ar gyfer aethnenni ac maen nhw hefyd yn gallu goddef sychder yn well.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’r safleoedd hyn yn cymryd amser i dyfu a datblygu ac yr ydym ni’n ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus gan bawb sy’n dod i Lan Elwy sy’n meithrin ardal wych i’r cymunedau cyfagos ymweld â hi a’i mwynhau ac i natur leol ffynnu ynddi.”

 

 

Comments