Ionawr 2026

13/01/2026

Tîm yn trin miloedd o filltiroedd i gadw Sir Ddinbych yn symud

Gwnaeth y tîm graeanu siwrnai sy’n cyfateb i yrru o Land's End i John O'Groats 13 o weithiau er mwyn helpu i sicrhau bod gyrwyr yn  gallu teithio’n ddiogel yn ystod y tywydd gaeafol diweddar.

Mae criwiau graeanu strydoedd Cyngor Sir Dinbych wedi mynd i'r afael ag 11,285 milltir o rwydwaith ffyrdd y sir yn ystod y cyfnod oer a effeithiodd y rhanbarth o Nos Galan tan ddydd Sul Ionawr 11.

Yn ystod tywydd garw, mae rhwydwaith graeanu'r sir wedi'i rannu'n naw llwybr sy'n cwmpasu 950km gyda 605km ohono'n cael ei drin. Ein nod yw trin y llwybrau blaenoriaeth bedair awr cyn isafswm tymheredd o sero gradd neu un radd os nad oes rhagolygon rhew gwirioneddol gan ein darparwr rhagolygon tywydd. Rhaid i'r halen graeanu gael ei falu gan draffig cyn dod yn effeithiol.

Ceir cymorth pellach gan gontractwyr amaethyddol allanol yn ystod cyfnodau o dywydd garw ac eira, gyda'r rhwydwaith wedi'i rannu'n 31 llwybr ychwanegol.

Yn ystod y cyfnod hwn, defnyddiodd y criwiau 2,805 tunnell o halen i drin y ffyrdd, mae hynny'n bwysau mwy nag un o dirnodau enwog y DU, sef Tŵr Blackpool sy’n pwyso tua 2,000 tunnell.

Treuliodd y tîm 2,040 awr yn trin y ffyrdd gan gwblhau 40 o rediadau graeanu yn cwmpasu'r naw llwybr blaenoriaeth ledled y sir gyda phatrolio a thaenu halen ychwanegol.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Diolch yn fawr iawn i'n holl yrwyr graeanu sydd wedi parhau i weithio'n galed yn aml drwy gydol y nos i oriau mân y bore, yn ystod y cyfnod hwn o dywydd garw. Maent yn dîm gwych sydd wedi gweithio'n galed mewn amodau ofnadwy ar adegau i gadw’r llwybrau blaenoriaeth mor glir â phosibl i'n trigolion a'n gyrwyr. Mae'r hyn y maent wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud yn cael ei werthfawrogi gan gynifer yn y sir.”

 

Comments