Medi 2025

23/09/2025

Agor ardal chwarae newydd Parc Drifft ar Brom y Rhyl

Agorodd Ardal Chwarae Parc Drifft, ar Brom y Rhyl, ei gatiau i’r cyhoedd ar ddydd Gwener (Medi 19), gydag agoriad swyddogol wedi’i drefnu ar gyfer dyddiad yn ddiweddarach yn y mis. 

Ardal Chwarae Parc Drifft

Mae’r parc wedi’i adfer â dyluniad newydd wedi’i ddewis gan y gymuned, wedi’i lywio gan sesiynau ymgynghori cyhoeddus a mwy na 200 o ymatebion adborth trwy ffurflenni ar-lein, a helpodd i ffurfio dyluniad Ardal Chwarae newydd Parc Drifft.

Fe’i hadeiladwyd â hygyrchedd a chynhwysiant mewn cof a chynhaliwyd sesiynau ymgysylltu mewn ysgolion lleol, sef Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Christchurch, lle rhoddodd disgyblion adborth gan helpu gyda dyluniad yr offer, a rhannu barn ac awgrymiadau.

Ar ôl ystyried yr adborth, fe ychwanegwyd mwy o siglenni i’r dyluniad, gan gynnwys siglen ddwbl. Roedd yr adborth yn nodi bod cais am fwy o fyrddau synhwyraidd a mwy o seddi hefyd. Mae ‘Cone Twister’ a gwifren wib hefyd wedi cael eu hychwanegu yn sgil adborth.

Mae mwy na 55 o nodweddion chwarae yn y parc newydd ac mae lle i 170 o ddefnyddwyr. Mae cylchfan gynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn yn yr ardal chwarae, ystod o baneli chwarae cynhwysol ar thema forwrol, si-so ar thema’r môr a llithren fawr ar thema llong fôr-ladron gyda grisiau sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.

Y parc newydd o'r awyr

Mae offer campfa ac ymarfer corff awyr agored i oedolion wedi’u gosod hefyd, drws nesaf i’r parc. Maen nhw wedi’u hadeiladu fel rhan o’r prosiect gwaith amddiffynfeydd môr mwy, ynghyd ag Ardal Chwarae newydd Parc Drifft.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydw i wrth fy modd o weld bod Ardal Chwarae newydd a gwell Parc Drifft ar agor i’r cyhoedd bellach.

Bydd y dyluniad newydd hwn a ddewiswyd gan y gymuned yn darparu oriau diddiwedd o hwyl a chwarae hygyrch i’r gymuned leol, sy’n cynnwys nodweddion chwarae gwell a mwy cynhwysol bellach.

Hoffwn ddiolch i’r gymuned am ymgysylltu â’r prosiect hwn. Mae eu hadborth wedi helpu i ffurfio dyluniad a gosodiad y parc newydd ar y prom.”

Comments