23/09/2025
Y Cabinet yn cymeradwyo cynllun gweithredu a strategaeth economaidd newydd ar gyfer 2025-2035
Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno i fabwysiadu strategaeth economaidd newydd ar gyfer 2025-2035.
Yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Medi, cyflwynwyd y strategaeth economaidd newydd arfaethedig i’r aelodau, yn ogystal â chynllun gweithredu a luniwyd er mwyn gweithio tuag at ‘Sir Ddinbych Ffyniannus’, sef un o flaenoriaethau corfforaethol y Cyngor.
Dan arweiniad tîm Datblygu Economaidd y Cyngor, roedd y strategaeth yn manylu ar y camau y gall y Cyngor a phartneriaid eu cymryd i gefnogi adferiad economaidd, gwella mynediad at gyflogaeth ac incwm o safon, a sicrhau bod twf economaidd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a thlodi ar draws Sir Ddinbych.
Yn sgil y penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod, bydd y strategaeth economaidd newydd yn disodli’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol 2013-2023 flaenorol.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, yr Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r strategaeth economaidd newydd hon yn strategaeth twf newydd uchelgeisiol a chyffrous, a fydd yn cefnogi datblygiad economaidd y Sir yn y dyfodol ac yn gweithio tuag at un o’n blaenoriaethau corfforaethol i gyflawni Sir Ddinbych Ffyniannus.
“Roedd y broses yn cynnwys ymgysylltu’n helaeth â budd-ddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a chynnal y partneriaethau hyn, gan ei bod hi’n hollbwysig newid i ganolbwyntio ar weithredu. Bydd angen ymdrech ar y cyd gan bartneriaid o fewn y Sir a thu hwnt, er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar y cyd”.