25/09/2025
Disgyblion yn dysgu am anifail brodorol
Mae disgyblion ysgolion cynradd yn mynd ati i ddysgu am anifail brodorol a arferai fod yn gyffredin yng Nghymru.
Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn cynnal nifer o sioeau teithiol mewn ysgolion i helpu’r plant i ddysgu mwy am afancod a’u cynefinoedd naturiol.

Mae’r sesiynau wrthi’n cael eu cynnal mewn nifer o ysgolion ac yn rhan o brosiect cyffredinol cyfredol y tîm Bioamrywiaeth i letya teulu o afancod Ewrasiaidd mewn llecyn caeedig diogel 24 erw yng Ngwarchodfa Natur Green Gates, fel rhan o gynllun 5 mlynedd. Yn amodol ar gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dyma fyddai’r prosiect cyntaf ar gyfer afancod mewn llecyn caeedig yng Ngogledd Cymru.
Rhoddwyd cyflwyniad i’r disgyblion ar yr afancod, a oedd yn rhywogaeth frodorol yng Nghymru ar un adeg cyn iddynt gael eu hela hyd at ddifodiant ym Mhrydain a’r rhan fwyaf o Ewrop am eu crwyn, eu cig a’u castorewm. Ar ôl sawl ymgais lwyddiannus i ailgyflwyno’r rhywogaeth, mae yna bellach 1,500 o afancod yn byw ym Mhrydain - yn yr Alban a Lloegr yn bennaf. Mae’r Afanc Ewrasiaidd bellach yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop yn yr Alban a Lloegr, dan Atodlen 2 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2019. Mae yna boblogaeth fechan o Afancod Ewrasiaidd yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd, mewn llecynnau caeedig ac yn y gwyllt.

Dysgodd y plant hefyd sut y gall afancod gynyddu bioamrywiaeth yn eu hamgylchedd yn sgil eu gwaith adeiladu argaeau a fforio.
Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd y disgyblion gyfle i weld sut mae afancod yn adeiladu eu hargaeau a’u gwalau eu hunain mewn gweithgaredd awyr agored.
Meddai’r Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright: “Mae’r sesiynau ymgysylltu hyn yn gyfle gwych i addysgu plant am afancod a sut y gallan nhw gefnogi amrywiaeth o wahanol fywyd gwyllt fel peirianwyr ecosystemau. Un o brif nodau Prosiect Afancod Sir Ddinbych yw addysgu, ac rydym yn gobeithio ennyn diddordeb llawer mwy o bobl yng Ngwarchodfa Natur Green Gates pan fydd y teulu afancod wedi’u lletya yno.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae creu cynllun afancod mewn llecyn caeedig yng Ngwarchodfa Natur Green Gates yn gam arwyddocaol yn ein gwaith i adfer rhywogaethau cynhenid, gwella bioamrywiaeth a chefnogi ecosystemau gwydn yn Sir Ddinbych.
Mae’n wych gweld plant lleol yn cael cyfle i ddysgu am anifail a oedd yn arfer bod mor gyffredin ledled Cymru. Gobeithio y caiff y plant hyn gyfle i ymweld â’r safle i weld yr afancod yn eu cynefin naturiol ryw ddiwrnod.”