Medi 2025

10/09/2025

Llwyddiant Hanesyddol dros yr Haf i Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun

Mae Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor yn dathlu haf llwyddiannus arall yn Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun, o ganlyniad i brofiad ymwelwyr a ddiweddarwyd.

Mae'r gweithgareddau newydd, a ariannwyd yn rhannol gan gronfa SPF Llywodraeth y DU, wedi bod yn digwydd ochr yn ochr ag agoriad arferol yr atyniadau treftadaeth yn yr haf, sydd unwaith eto wedi gweld ymwelwyr o bell ac agos yn gwneud eu ffordd i brofi'r darnau pwysig hyn o hanes lleol.

Mae’r tymor hwn wedi bod yn arbennig o boblogaidd gyda theuluoedd, oherwydd yr ymdrech dros y blynyddoedd diwethaf i gynnig mwy i ymwelwyr iau trwy dywyswyr clywedol rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol. Yn wir, yn 2025 cafwyd mwy o ddarpar Houdini's yn cymryd rhan yn llwybr ‘Dianc o’r Carchar’ yng Ngharchar Rhuthun, a theithwyr amser yn cael profiad o dros 500 o flynyddoedd o hanes yn Nantclwyd y Dre nag erioed o’r blaen!

Meddai Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’r haf hwn unwaith eto yn dangos faint mae pobl yn gwerthfawrogi ein hatyniadau hanesyddol, y gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal a bu’n bleser croesawu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau ac i weld ein mannau hanesyddol yn cael eu defnyddio mewn ffordd mor greadigol.

“Gobeithiwn ddatblygu llwyddiant y misoedd diwethaf a datblygu ein dewis o ddigwyddiadau a gwasanaethau newydd i hyrwyddo cynaliadwyedd ein hatyniadau, gan sicrhau bod eu hanes yn parhau i fod yn fyw i genedlaethau i ddod”.

Bydd Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun yn parhau i fod ar agor i’r cyhoedd tan ddiwedd mis Medi. Ewch i’n tudalen treftadaeth i drefnu ymweliad, neu cysylltwch â’r tîm ar treftadaeth@sirddinbych.gov.uk ar gyfer ymholiadau ynghylch llogi lleoliad.

Comments