Medi 2025

01/09/2025

Meifod yn cefnogi cymorth lles

Mae prosiect i gefnogi lles yn Ninbych yn cael cymorth i’w adfywio gan wasanaeth yn y dref.

Mae adran Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych yn adfywio Llwybr Cerdded Lles ar draws Dinbych Isaf ac i Ganol Dinbych ar ôl cyflwyno cais llwyddiannus drwy Gynllun Swm Cymudol Mannau Agored Hamdden Cyhoeddus.

Bydd y datblygiad newydd hwn yn golygu prynu a gosod meinciau cyfeillgarwch gyda chodau QR gwybodaeth ar y dodrefn mewn lleoliadau strategol i greu llwybr cerdded lles yn Ninbych, i fod o fudd i bob aelod o’r cyhoedd.

Mae’r meinciau yn cael eu creu yn Cynnyrch Coed Meifod sy’n gweithredu ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych.  Mae Meifod yn cynhyrchu dodrefn pren i’r ardd yn eu gweithdy ac yn darparu gwasanaeth profiad gwaith i oedolion ag anableddau dysgu.

Llunnir pob dodrefnyn â choed a gafwyd o ffynhonnell gynaliadwy gan sicrhau ei fod â golwg graenus ac wedi’i wneud i bara.

Bydd y gwaith ym Meifod hefyd yn golygu ysgythru codau QR ar y meinciau a fydd yn mynd â phobl i safle ar-lein sy’n disgrifio’r ardal ble mae’r fainc a gwybodaeth gyffredinol am y llwybr.

Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ddylunio i wella profiad i ymwelwyr mewn lleoliadau pwysig, sy’n ganolog i Sir Ddinbych ac annog pobl i ymfalchïo yn eu mannau gwyrdd, gan wella dealltwriaeth am werth bioamrywiaeth a chadwraeth yr ardaloedd hyn. 

Meddai Cydlynydd Ardal Gwasanaethau Stryd, Neil Jones: “Rydym yn falch fod Meifod yn creu ein meinciau i fod ar hyd y llwybr hwn gan fod eu crefftwaith yn wych a fydd wir o gymorth wrth ddod â’r datblygiad hwn yn fyw. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae hon yn fenter wych i’r dref ac mae’n braf gweld bod gwasanaeth lleol poblogaidd fel Meifod yn helpu i ddod â’r prosiect hwn yn fyw.

Comments