26/09/2025
Cerbyd trydan oddi ar y ffordd o’r Alban yn ymgartrefu yn nhiroedd Cymru
Mae cerbyd trydan oddi ar y ffordd o’r Alban, y cyntaf o’i fath yn y DU, wedi cyrraedd ei gartref newydd ym mryniau Cymru.

Mae Morag y Munro wedi bod yn crwydro llwybrau Moel Famau i ymgyfarwyddo â Bryniau Clwyd a rhoi cyfle i’r ceidwaid cefn gwlad ddod i’w adnabod drwy hyfforddiant.
Ariannwyd y tryc agored trydan Munro Series-M M280 gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gyflwyno yn lle tryc agored a oedd yn llosgi tanwydd ffosil sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. Dyma’r cyntaf o’i fath i gael ei ddefnyddio gan awdurdod lleol yn y DU, a bydd ceidwaid Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ei ddefnyddio i helpu gyda’u dyletswyddau dyddiol ar y bryniau. Bydd yn cael ei leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads.
Rhoddwyd y llysenw Morag arno am fod ei gymeriad garw yn ein hatgoffa o wartheg Ucheldiroedd yr Alban. Dewiswyd y Munro oherwydd ei allu i ymdopi â thirwedd Bryniau Clwyd a safleoedd bryniog eraill, a welwyd ar ôl iddo gael ei brofi'n drylwyr yn ôl yn yr Alban ym mhob math o sefyllfaoedd oddi ar y ffordd a llwyddo i ymdopi â llethrau dros 40 gradd.

Mae’r ceidwaid a fydd yn defnyddio Morag ar Fryniau Clwyd eisoes wedi bod wrthi’n cael hyfforddiant, dan ofal Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych a chynrychiolwyr Munro, a ddaeth gyda Morag mewn cerbyd tebyg.
Cynhaliwyd yr hyfforddiant diweddar ar Lwybr Clawdd Offa, a fydd yn un o’r llwybrau y bydd y Munro’n eu teithio’n rheolaidd wrth iddo helpu’r ceidwaid.
Mae cyflwyno’r Munro yn rhan o ymdrech barhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau allyriadau carbon y fflyd, gwella ansawdd yr aer, a lleihau costau cynnal a chadw a thrin hirdymor drwy ddisodli cerbydau sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes gyda cherbydau trydan cyfwerth.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae’n wych gweld y tryc arloesol hwn yn crwydro’r ardal y bydd yn gweithio ynddi o’r diwedd. Mae’r Adran Fflyd wedi gweithio’n galed i baratoi Morag i weithio yng nghefn gwlad, ac rwy’n ddiolchgar iddyn nhw ac i Munro am gefnogi hyfforddiant hollbwysig y ceidwaid a fydd yn defnyddio’r cerbyd hwn.”