01/09/2025
Gwaith yn dechrau ar Drac Pwmpio newydd yn Ninbych uchaf
Bydd grŵp o bobl ifanc o Ddinbych yn gweld eu gweledigaeth yn cael ei gwireddu cyn bo hir wrth i waith ddechrau ar drac pwmpio newydd sbon ar Gae Hywel y mis hwn.
Mae trac pwmpio yn gylchdaith bwrpasol wedi'i chynllunio ar gyfer beiciau, byrddau sglefrfwrdd, sgwteri, a hyd yn oed cadeiriau olwyn. Mae'r prosiect yn ganlyniad ymgyrch gymunedol gref a phartneriaeth rhwng tîm Grŵp Cynefin yn HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Cyngor Sir Ddinbych a thrigolion lleol.
Daeth y syniad gan grŵp o bobl ifanc 13 - 17 oed yn Ninbych Uchaf a dynnodd sylw at ddiffyg cyfleusterau beicio yn lleol. Trwy weithio’n agos gyda thîm Grŵp Cynefin yn HWB Dinbych a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych, bu’r grŵp - sydd bellach yn cael eu hadnabod fel ‘Bumps and Jumps’ - yn ymgyrchu am drac lleol fel bo modd iddyn nhw a phobl ifanc eraill feicio’n ddiogel heb orfod teithio’n bell.
Dywedodd aelod o'r grŵp 'Bumps and Jumps':
"Rydym yn gyffrous am ddyfodol y prosiect a sut mae'r prosiect yn mynd ar hyn o bryd yn ogystal â bod yn hapus iawn am y trac pwmpio sy'n cael ei adeiladu a bod yn rhan o'i ddylunio. Rydym yn edrych ymlaen i weld y gwaith adeiladu'n dechrau'n fuan."
Grŵp 'Bumps and Jumps'
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Dyma enghraifft wych o sut mae gwrando ar y gymuned yn gallu arwain at gyfleusterau newydd sy’n dod â phobl at ei gilydd.
“Dylai’r bobl ifanc sydd wedi bod yn arwain y prosiect hwn deimlo’n falch iawn o’u hunain am lwyddo i wneud i hyn ddigwydd ac mae eu penderfyniad wedi ysbrydoli’r gymuned gyfan.”
Mae trac pwmpio yn galluogi beicwyr i ddefnyddio dull pwmpio er mwyn cynnal eu cyflymder ar y beic heb badlo, diolch i gyfres o roleri, troeon a nodweddion sy’n galluogi defnyddwyr i gynnal momentwm drwy symudiadau’r corff. Bydd y trac - sydd wedi’i lunio ar gyfer beiciau, byrddau sgrialu, sgwteri ac sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn - yn cynnwys adrannau i ddechreuwyr ac i rai mwy profiadol, gan gynnig man diogel a phwrpasol i alluogi pobl o bob oedran a gallu i gadw’n egnïol.
Mewn nifer o ymgynghoriadau cymunedol, llawer ohonynt wedi’u harwain gan y bobl ifanc eu hunain, cadarnhawyd bod cefnogaeth leol gref i’r prosiect. Mae’r safle a ddewiswyd yn agos at y maes chwarae a’r meinciau, gyda llwybrau hygyrch ac yn gwbl ar wahân i eiddo preswyl.
I nodi dechrau’r gwaith adeiladu, bydd y grŵp ‘Bumps and Jumps’ yn ‘torri’r tir’ yn swyddogol ochr yn ochr â’r contractwr ar 8 Medi. Bydd digwyddiad cymunedol arbennig i ddilyn am 5pm yr un diwrnod, lle gall trigolion weld y cynlluniau, cwrdd â’r tîm a chyfrannu syniadau at ddyluniad terfynol y trac ac mae croeso i bawb fynychu. Disgwylir i'r gwaith gymryd pythefnos i dair wythnos, os bydd y tywydd yn caniatáu.
Bydd y gwaith adeiladu’n cael ei wneud gan JB Extreme Landscape, ac mae’r prosiect sy’n werth £58,332 wedi’i ariannu trwy gynllun grant Symiau Gohiriedig Mannau Agored, wedi’i weinyddu gan Dîm Cydnerthu Cymunedol Sir Ddinbych. Bydd Tai Sir Ddinbych yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw waith cynnal a chadw ac arolygon, gyda chefnogaeth y Gwasanaethau Stryd.
Mae’r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Grŵp Cynefin HWB Dinbych, Actif Gogledd Cymru, Tîm Cydnerthu Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaeth Tai, Gwasanaethau Stryd a Gwasanaethau Ieuenctid Sir Ddinbych.