Medi 2025

11/09/2025

Gwaith gwelliannau ffordd i ddechrau yn Nant y Garth

Fe fydd Adran Priffyrdd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau gweithio ar gynllun cynnal a chadw ffyrdd enfawr ger Rhuthun sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi clustnodi 57 o leoliadau yn y sir mewn rhaglen gynnal a chadw ffyrdd dros ddwy flynedd a fydd yn elwa o gyllid Menter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru. Nod y cyllid (£4.780m dros 2025/26 a 2026/27) yw gwella cyflwr arwyneb y ffordd ar rannau o rwydwaith ffyrdd y Sir.

Fe fydd gwaith ailwynebu sylweddol yn digwydd rhwng 15 Medi a 19 Hydref, os bydd y tywydd yn caniatáu, ar A525 Bwlch Nant y Garth.  Bydd y traffig yn cael ei reoli gan ddefnyddio system gonfoi Stop/Go, felly dylid disgwyl rhywfaint o oedi.   Yn rhan o’r gwaith, fe fydd marciau a stydiau’r ffordd hefyd yn cael eu hailwampio.

Mae rhywfaint o waith paratoi eisoes wedi dechrau, pan gafodd ffensys eu trwsio a draeniau eu glanhau.  

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r Cyngor yn gwbl ymwybodol bod cyflwr Rhwydwaith Ffyrdd Sir Ddinbych yn destun trafod rheolaidd gan ein preswylwyr.  Rydym yn ddiolchgar am gyllid Llywodraeth Cymru a fydd yn galluogi i ni fynd i’r afael â rhan fawr o’n rhwydwaith, ynghyd â Bwlch Nant y Garth, sydd angen ei wella”.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk.

 

 

Comments