Ardal chwaraeon
Yr haf hwn mae camp aml chwaraeon Hamdden Sir Ddinbych, i fechgyn a merched rhwng 6-11 oed, yn dychwelyd i’n Canolfannau Hamdden.
Mae Ardalchwaraeon yn gyfle gwych i blant fwynhau eu hunain, cymdeithasu a rhoi cynnig ar ystod eang o chwaraeon, megis pêl-rwyd, pêl-fasged, rygbi, badminton a phêl-droed.
Gall amserlenni amrywio o Ganolfan i Ganolfan, felly gwiriwch ein gwefan am fwy o fanylion.