llais y sir

Haf 2018

Canolfannau Hamdden

Tra bod awdurdodau eraill yn cael trafferth buddsoddi yn eu darpariaethau hamdden, mae Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau o safon uchel a gwerth am arian i’w gwsmeriaid.Rhyl Leisure Studio Cycling

Dros y 12 mis diwethaf, mae llawer o ddatblygiadau cyffrous iawn wedi bod ar draws y Sir, gan gynnwys ystafell ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden Llangollen a chae pêl-droed 3G cyntaf (i dimau 5 bob ochr) Sir Ddinbych yng Nghorwen. Yn dilyn agor canolfan a chyfleuster 3G newydd yn Llanelwy yn ystod mis Medi diwethaf, ychwanegwyd at y cyfleusterau ym mis Mai drwy adeiladu ystafell hyfforddi HiT newydd.

Mae'r datblygiadau yn parhau gyda ailddatblygu Canolfan Hamdden y Rhyl wedi ei gwblhau. Mae'r Cyngor Sir wedi agor Stiwdio Feicio Grŵp gyda 25 beic yn y ganolfan, sy’n cynnwys systemau sain a goleuo wedi ei deilwra.  Bydd y stiwdio yn cynnig 15 dosbarth beicio grŵp yr wythnos, yn cynnwys boreau cynnar a nosweithiau, fel rhan o’r amserlen newydd.  Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, aelod arweiniol y Cyngor dros Les ac Annibyniaeth: “Y stiwdio hon yw'r ychwanegiad diweddaraf i Ganolfan Hamdden y Rhyl, sydd wedi derbyn £1.2m i ailddatblygu dros y 12 mis diwethaf.

“Rydym wir yn falch o’n henw da mewn buddsoddi yn ein cyfleusterau hamdden, tra bo cynghorau eraill yn ystyried cau’r fath gyfleusterau.

“Rydym yn cydnabod manteision ein cyfleusterau mewn gwella iechyd a lles ein preswylwyr drwy wneud ein cymunedau yn gryf, sy’n flaenoriaeth i’r Cyngor.”

Mae Beicio Grŵp yn weithgaredd lle ceir ychydig iawn o straen ar gymalau pen-glin, cluniau a fferau, ac yn un o’r sesiynau stiwdio sy’n llosgi’r mwyaf o galorïau, lle mae’r beicwyr yn gallu teilwra’r gweithgaredd i'w gallu eu hunain trwy addasu eu beiciau.

Y rhan olaf o’r ailddatblygiad yw agor ystafell ffitrwydd newydd yn y ganolfan ar 3 Gorffennaf, sy'n cynnwys y cyfarpar cardio ac ymwrthedd Technogym diweddaraf gyda llwybrau hyfforddi awyr agored rhithiol.

Mae’r cyfarpar newydd yn cynnwys ‘Skill Runs’, sy’n caniatáu rhedwyr i berfformio hyfforddiant parasiwt a sled, a dringwr grisiau.

Mae ystafelloedd newid y ganolfan hefyd wedi cael eu huwchraddio ac yn agor ar 3 Gorffennaf.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau’n fuan ar ddiweddaru pwll nofio ac ystafelloedd newid Canolfan Hamdden Rhuthun ac ar ddiweddaru’r ystafelloedd newid yng Nghanolfan Hamdden Prestatyn.

Dim ond cipolwg yw’r prosiectau hyn o’r rhaglen gyffrous o welliannau sydd ar y gweill yng nghyfleusterau Hamdden Sir Ddinbych – galwch heibio’ch canolfan leol i weld dros eich hunain.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...