llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Gwaith cynllun amddiffynfeydd arfordirol Sir Ddinbych yn dechrau ym Mhrestatyn

Mae gwaith i wella amddiffynfeydd arfordirol wedi dechrau ar y promenâd ym Mhrestatyn fel rhan o Gynllun Amddiffyn Arfordir Canol Prestatyn.  Nod y prosiect aml filiwn yw amddiffyn dros 2,000 o eiddo yn yr ardal rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.

Bydd gwaith adeiladu amddiffynfeydd newydd yn dilyn ffin Clwb Golff Y Rhyl gan ymestyn tuag at y twyni tywod i’r dwyrain ac yn gorffen yn y gorllewin drwy ymuno â’r Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol sydd wedi ei gwblhau yn Nwyrain Y Rhyl. Bydd y gwaith yn cymryd oddeutu tair blynedd i’w gwblhau gyda’r promenâd yn cau am gyfnod byr o faes parcio Heol Garford i lwybr troed Green Lanes tan Hydref 2023.

Bydd prif ganolbwynt y gwaith ar gyfer y prosiect yn nhŷ clwb golff presennol Y Rhyl, gyda dau fan mynediad i safleoedd adeiladu newydd yn cael eu creu yn y Clwb Golff ac wrth y gyffordd â Sherwood Avenue. Bydd arwyddion ar gyfer gwyriadau priodol i gerddwyr a beicwyr mewn lle tra bod y gwaith yn cael ei wneud.

Bydd y traeth yn parhau i fod ar agor, ond bydd rhai mannau mynediad i’r traeth wedi cau.  Ar hyn o bryd mae mynediad ar gael trwy’r llwybr troed trwy ganol Clwb Golff Y Rhyl, sy’n cysylltu â Coast Road i’r traeth.

Meddai Balfour Beatty, prif gontractwyr y gwaith: “Mae camau yn cael eu cymryd i leihau’r effaith y mae cau'r llwybrau yn ei gael ac i geisio cynnal mynediad i’r traeth ar gyfer y cyhoedd trwy lwybrau troed Terfyn Pella Avenue a Green Lane cymaint ag y mae hynny’n bosib ac yn ymarferol yn ystod y gwaith. Byddwn yn rhoi gwybod i breswylwyr o flaen llaw ynglŷn ag unrhyw newidiadau.”

“Byddwn hefyd yn creu man croesi i gerddwyr ar lwybr troed Green Lanes er mwyn rhoi mynediad i’r traeth ac rydym yn y broses o gyflogi rhywun i oruchwylio’r llwybr troed er mwyn galluogi cerddwyr i ddefnyddio’r mynediad hwn yn ddiogel am ei fod yn torri trwy’r safle adeiladu.  Bydd rhywun yn goruchwylio yn ystod oriau adeiladu.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn hynod o falch bod y gwaith i ddiogelu cannoedd o eiddo a busnesau yn yr ardal rhag stormydd a llifogydd wedi dechrau ym Mhrestatyn fel rhan o’n prosiect ehangach i wella amddiffynfeydd arfordirol mewn trefi glan môr Sir Ddinbych.  Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddiogelu amddiffynfeydd arfordirol ar gyfer y dyfodol i amddiffyn dros 2,000 o eiddo a phreswylwyr yn ardal Prestatyn.”

Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am ein Cynllun Amddiffynfa Arfordirol Canol Prestatyn ar ein gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...