llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2020

Goleuo tirnodau lleol i gefnogi #carubusnesaulleol

Mae nifer o safleoedd ar draws trefi Sir Ddinbych yn cael eu goleuo ym mis Rhagfyr fel rhan o ymgyrch farchnata Siopa’r Gaeaf i gefnogi busnesau lleol.

Gan nad yw rhai o’r gweithgareddau Nadoligaidd arferol yn nhrefi’r sir yn cael eu cynnal eleni, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio gyda’i bartneriaid ar ddull amgen i roi hwb i ganol trefi, er mwyn cefnogi ymgyrch Siopa’r Gaeaf sydd eisoes ar waith.

Bydd prosiect Goleuo Sir Ddinbych yn anelu at roi hwb i nifer y bobl sy’n ymweld â chanol trefi a gwella’r gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau gan y Cyngor i sicrhau fod canolfannau masnachol yn ddiogel i bobl siopa a mwynhau lletygarwch.

Disgwylir y byddwn yn troi’r goleuadau ymlaen ar 4 Rhagfyr ac yn eu cadw ymlaen am fis, er mwyn gwneud y mwyaf o ymwelwyr ychwanegol, nid yn unig yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig, ond ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd yn ogystal.

Dyma’r lleoliadau y byddwn yn eu goleuo:

  • Prestatyn – Eglwysi a chapeli
  • Rhuddlan – Castell Rhuddlan (Ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd)
  • Y Rhyl - Neuadd y Dref
  • Dinbych - Castell Dinbych (Gwybodaeth ar amseroedd agor: cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-dinbych)
  • Rhuthun, Sgwâr Sant Pedr, Eglwys Sant Pedr
  • Llanelwy – Cadeirlan Llanelwy
  • Llangollen – Prif bont y dref
  • Corwen – Y Sgwar

Ariennir y cynllun gan y Cyngor.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans OBE: “Bydd y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig ychydig yn wahanol eleni, gan nad oes modd cynnal y digwyddiadau mawr sydd fel arfer yn cael eu cynnal pan fydd y trefi wedi’u goleuo eleni.

“Er y bydd gan drefi eu goleuadau Nadolig traddodiadol eu hunain, mae’r Cyngor wedi penderfynu ychwanegu mwy o oleuadau a rhoi hwb i ysbryd yr ŵyl drwy oleuo rhai o’r adeiladau a’r strwythurau hanesyddol ac eiconig yn ein prif drefi. Rydym wedi dotio at yr holl gefnogaeth yr ydym wedi’i derbyn gan gynghorau dinas a thref ar draws Sir Ddinbych i ymgymryd â’r prosiect hwn.

“Ein nod yw denu pobl i’r dref a hyrwyddo ein hymgyrch marchnata Siopa’r Gaeaf, a gafodd ei lunio er mwyn annog trigolion i gefnogi eu siopau lleol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn. Bydd yr ymgyrch yn ystyried cefnogi ystod eang o weithgareddau busnes, gan gynnwys bargeinion ar-lein, fel rhan o’r fenter #carubusnesaulleol.

“Gobeithiwn y bydd pobl yn mwynhau’r goleuadau ac yn awyddus i ymweld â chanol y dref i weld beth sydd ar gael ac i fwynhau hwyl yr ŵyl”.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...