Medi 2026

21/09/2026

Gohirio Arwerthiant Eiddo yn Cyffylliog am Drafodaethau Cymunedol

Mae’r arwerthiant arfaethedig o chwe eiddo ym mhentref Cyffylliog, ger Rhuthun, wedi’i ohirio yn dilyn pryderon a godwyd gan y cynghorydd lleol.

Roedd y chwe thŷ yn Bryn Awelon i fod i gael eu gwerthu fel un lot yn arwerthiant drwy BTG Eddisons Property Auctions ar 30 Medi.

Daw’r penderfyniad i ohirio’r arwerthiant yn dilyn cyfarfod rhwng Dirprwy Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts; yr Aelod Arweiniol dros Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol, y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams; ac aelod lleol y ward, y Cynghorydd Ian Evans, i ystyried pryderon a godwyd gan drigolion ynghylch dyfodol yr eiddo.

Drwy ohirio, bydd amser ar gyfer ymweliad â’r safle a chyfarfod cyhoeddus gyda thrigolion lleol i drafod y sefyllfa ac archwilio opsiynau posibl ar gyfer y cartrefi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Cawsom gyfarfod adeiladol gyda’r Cynghorydd Evans yn dilyn ei gais i ni ystyried barn trigolion lleol, ac mae hyn wedi arwain at y gohiriad hwn. Byddwn yn gwrando’n ofalus ar y pryderon a godwyd gan drigolion ac rydym yn teimlo ei bod hi’n bwysig gohirio’r broses arwerthu er mwyn caniatáu i drafodaethau pellach ddigwydd. Rydym am sicrhau bod gan bobl leol gyfle i rannu eu barn a bod modd ystyried yr holl opsiynau yn llawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams: “Mae tai lleol yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon ac mae’r eiddo hyn yn fater pwysig i’r gymuned leol. Drwy ohirio, bydd cyfle i ni ymweld â’r safle, cwrdd â thrigolion a chael sgyrsiau adeiladol am ddyfodol y cartrefi.”

Bydd cyfarfod cyhoeddus ar gyfer trigolion lleol yn cael ei drefny gan y Cynghorydd Evans a fydd yn rhannu’r manylion yn y man.

Comments