Medi 2026

04/09/2026

Dros 2,200 awr o gefnogaeth yn cael ei ddarparu gan Wirfoddolwyr Ar Ymyl Gofal ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion Sir Ddinbych

Mae gwirfoddolwyr gyda Thîm Ar Ymyl Gofal yng Ngofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Ddinbych wedi cyfrannu cyfanswm o 2,202 awr o gefnogaeth dros y 12 mis diwethaf, gan helpu dinasyddion, teuluoedd a gofalwyr ar hyd a lled y Sir i fagu hyder, i gadw mewn cysylltiad a chael gafael ar gefnogaeth gymunedol hollbwysig.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae 64 o wirfoddolwyr wedi cefnogi 49 o ddinasyddion Sir Ddinbych drwy’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Ar Ymyl Gofal, gan gynnig anogaeth, cymorth ymarferol a chysylltiad cymdeithasol i bobl allai fod yn unig, sydd â hyder isel, sy’n wynebu pwysau ar y teulu, sydd â heriau iechyd meddwl neu’n delio ag amgylchiadau anodd eraill bywyd.

Trwy gydol y 2,202 awr, mae gwirfoddolwyr wedi cynnig cwmnïaeth a chymorth ymarferol, o gefnogi pobl i ailgysylltu â’u cymunedau i helpu gofalwyr i deimlo eu bod yn gallu parhau â'u rolau gofalu.

Mae Tîm Ar Ymyl Gofal yng Ngwasanaeth Cymdeithasol i Oedolion bellach yn awyddus i adeiladu ar hyn drwy recriwtio gwirfoddolwyr newydd o bob cefndir. Nid oes angen profiad blaenorol gan y bydd hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus yn cael ei darparu.

Gallai gwirfoddolwyr newydd helpu drwy:

• Gefnogi unigolion i gael gafael ar grwpiau, gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol.
• Darparu cwmnïaeth a helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.
• Cynorthwyo unigolion i fagu hyder ac annibyniaeth.
• Annog cyfranogiad mewn gweithgareddau iechyd a lles cadarnhaol.
• Helpu pobl i ailgysylltu â’u cymunedau lleol a rhwydweithiau cymorth.

Meddai Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon yn ein cymunedau lleol. Rydym ni’n chwilio am fwy o bobl drugarog sydd yn gofalu am eu cymuned i ddod i ymuno â’n gwirfoddolwyr.

Mae gwirfoddoli yn agor y drws i ddatblygu sgiliau a phrofiad newydd, ac mae’r gwasanaeth yn darparu sesiwn sefydlu a hyfforddiant cynhwysfawr yn ogystal â goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus.

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned leol, ystyriwch gofrestru i wirfoddoli.”

I ddysgu mwy am ddod yn wirfoddolwr gyda Thîm Ar Ymyl Gofal, cysylltwch â Thîm Ar Ymyl Gofal neu dilynwch y ddolen:

https://www.denbighshire.gov.uk/en/jobs-and-employees/volunteering/forms/volunteer-enquiry-edge-of-care.aspx

Comments