Medi 2026

27/08/2026

Parcio’n ddiogel yng nghefn gwlad Llangollen

Bydd swyddogion y Cyngor yn monitro parcio yn Rhaeadr y Bedol, Llangollen, a’r ardal gyfagos dros y penwythnos gŵyl banc.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhai sy’n ymweld â’r gyrchfan boblogaidd i barcio’n gyfrifol dros y penwythnos gŵyl banc ac ystyried cynllunio ymlaen llaw i ymweld ag atyniadau eraill sydd ar gael ar draws Dyffryn Dyfrdwy, os bydd yr ardal hon yn brysur.  Atgoffir ymwelwyr bod digon o leoedd parcio yn y dref sy’n bellter cerdded hygyrch a dymunol ar hyd llwybr tynnu’r gamlas i gyrraedd Rhaeadr y Bedol.

Mae cyfyngiadau parcio yn bwysig ar gyfer diogelwch y ffyrdd ac i sicrhau bod trosiant teg o leoedd parcio; mae'r cyngor wedi gosod pyst rhwystr ac arwyddion ymwybyddiaeth ar y safle i annog gyrwyr i barcio'n gyfrifol.

Bydd swyddogion gorfodi sifil hefyd yn monitro’r safle, yn enwedig ar amseroedd prysur, a gall gyrwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau parcio gael Rhybudd Talu Cosb.

Fel Safle Treftadaeth y Byd, mae Rhaeadr y Bedol yn boblogaidd ymysg pobl leol yn ogystal â thwristiaid. Tra bod croeso i ymwelwyr ddod â phicnic gyda nhw, ni chaniateir barbeciws ar y safle. Gofynnwn i’r holl ymwelwyr ddangos parch tuag at y safle, defnyddwyr eraill a’r gymuned leol.

Mae’r cyngor yn cysylltu â phartneriaid hefyd gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru er mwyn monitro unrhyw gynnydd o ran problemau ar y safle.

Dywedodd yr Arolygydd Joseph Dunn, Arolygydd Ardal ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych Wledig: 

“Codwyd parcio yn Rhaeadr y Bedol fel gwir bryder i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn defnyddio’r llwybr fel rhan o fywyd bob dydd. Mae hefyd gwir bryderon o ran mynediad i’r gwasanaethau brys ar hyd y llwybr. Er mai’r awdurdod lleol sy’n bennaf gyfrifol am orfodi parcio, rwy’n falch y bydd ein swyddogion yn cefnogi ein cydweithwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych gyda phatrolau gweladwy, siarad gyda modurwyr a’r gymuned, a chamau gorfodi pan fo angen. 

“Bydd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ddinbych yn parhau i weithio mewn partneriaeth ar fesurau datrys problemau hirdymor ar gyfer y lleoliad, ac ar ymgysylltu a gwydro i atal digwyddiadau blaenorol rhag digwydd eto”. 

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych:

“Gofynnwn i ymwelwyr fwynhau’r ardal hardd hon yn gyfrifol, mynd â’u sbwriel adref pan fo’n bosib neu ddefnyddio’r biniau sydd ar gael. Mae hefyd yn bwysig bod ymwelwyr yn parchu’r rhai sy’n gweithio ar y safle i sicrhau diogelwch a mwynhad ymwelwyr a thrigolion hefyd.

“Rydym hefyd yn annog ymwelwyr i ddilyn y cyfyngiadau parcio sydd ar waith gan eu bod yn bwysig i ddefnyddwyr y ffordd a sicrhau bod trosiant teg o leoedd parcio. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol wrth ymweld y gall swyddogion gorfodi sifil roi Rhybudd Talu Cosb i unrhyw un nad ydynt yn cydymffurfio â’r rheoliadau parcio”.

Comments