Medi 2026

04/09/2026

Y wybodaeth ddiweddaraf am waith cynnal a chadw cylchol ar ffyrdd

Bydd gwaith cynnal a chadw arferol yn cael ei wneud ger Llanelwy a Rhuddlan y mis hwn.

Bydd gwaith torri gwair, strimio, casglu sbwriel ac ysgubo yn cael ei gwblhau ar Ffordd Ddeuol yr A525 rhwng Cylchfan Talardy a chylchfan Bryn Cwybyr ac ar yr A547 Ffordd Abergele, ar y dyddiadau sydd wedi’u nodi isod.

  • Dydd Llun a Dydd Mawrth 14ydd a 15ydd Medi Ffordd ar Gau– A525 Talardy - KFC
  • Dydd Mercher 16ydd Medi - A525 Ffordd osgoi Rhuddlan
  • Dydd Iau 17ydd Medi – A525 Bryn Cwybr Cylchfan Ffordd Derwen
  • Dydd Llun 21af Medi - A547 – Ffordd Abergele -Cylchfan Borth to Ffin yr Ardal

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a 6am ac yn cymryd 3 noson i’w wneud.  I sicrhau y cyflawnir y gwaith yn ddiogel, bydd yr A525 a’r A547 ar gau i gerbydau a cherddwyr ar y dyddiadau a’r amseroedd a nodir.

Bydd yna arwyddion ar gyfer y llwybr gwyro amgen i bob rhan o’r ffordd fydd ar gau. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi ac yn gwerthfawrogi eich amynedd a’ch cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.

 

Comments