Medi 2026

15/09/2026

Cosbi’r Cyflawnwr: Rhybudd Cosb Benodedig o £250 i Dipiwr Anghyfreithlon yn Rhuthun

Mae unigolyn sydd wedi cael ei ddal yn tipio’n anghyfreithlon yn Rhuthun wedi cael Rhybudd Cosb Benodedig o £250 yn dilyn gweithredu gan Swyddogion Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych.

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol a Newid Ymddygiad y Cyngor yn parhau i ddilyn dull rhagweithiol o ran mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ar draws y sir, wrth i swyddogion gynnal ymchwiliadau a chasglu tystiolaeth lle canfyddir bod gwastraff wedi cael ei adael yn anghyfreithlon.

Yn yr achos hwn, llwyddodd y swyddogion i adnabod yr unigolyn a oedd yn gyfrifol a chymryd camau gorfodi, gan arwain at gyflwyno Cosb Benodedig o £250.

Gall tipio anghyfreithlon gael effaith barhaol ar y mannau y mae pobl yn byw, gweithio ac ymweld â nhw. Boed yn ychydig o wastraff y cartref neu’n bentwr mawr o bethau wedi’u gwaredu, bydd y Cyngor yn ymchwilio i’r achos os bydd digon o dystiolaeth i ganfod y rhai sy’n gyfrifol.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych:

“Dyma enghraifft arall o’n swyddogion allan yn ein cymunedau ac yn gweithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon.

“Mae tipio anghyfreithlon yn ymwneud â mwy na gadael bag o sbwriel ar eich ôl. Mae’n effeithio ar edrychiad ein cymunedau, gall achosi niwed amgylcheddol, ac mae’n creu gwaith a chostau ychwanegol i lanhau’r gwastraff na ddylai wedi cael ei adael yno yn y lle cyntaf.

“Rydym eisiau i bobl feddwl ddwywaith cyn gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon. Mae ein neges yn syml - gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol a pheidiwch â’i roi i rywun arall oni bai eich bod yn fodlon bod ganddynt yr awdurdod i’w gymryd.”

Mae’r Cyngor yn annog trigolion i roi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon pan maent yn eu gweld ac, os yn bosibl, darparu gwybodaeth a allai helpu swyddogion i ganfod y rhai sy’n gyfrifol.

Mae ymchwilio i droseddau amgylcheddol a’r camau gorfodi dilynol yn rhan o waith ehangach Cyngor Sir Ddinbych i wella glendid cymunedau a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei waredu’n anghyfreithlon ar draws y sir.

 

Comments