Medi 2026

25/09/2026

Cyngor yn erfyn ar drigolion i helpu i gadw ardaloedd cymunedol yn lân

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog trigolion ac ymwelwyr i waredu eu gwastraff yn gyfrifol, fel rhan o waith parhaus i fynd i'r afael â sbwriel ar draws cymunedau.

Meddylia cyn tafluMae taflu sbwriel yn drosedd amgylcheddol, a gellir rhoi Rhybudd Cosb Benodedig i unrhyw un a ddelir yn taflu sbwriel os ceir digon o dystiolaeth.

Mae Tîm Troseddau Amgylcheddol y Cyngor eisoes wedi cyhoeddi nifer o Rybuddion Cosb Benodedig ar draws y sir, i gefnogi ymdrechion ehangach i atal troseddau amgylcheddol a gwella glendid ac ymddangosiad cymunedau Sir Ddinbych.

Gall taflu sbwriel gael effaith sylweddol ar gymunedau lleol, yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Gall ddifetha golwg strydoedd a mannau cyhoeddus, arwain at gostau glanhau ychwanegol ac annog mwy o sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gall sbwriel sy'n cael ei daflu'n ddi-hid hefyd beri risg ddifrifol i fywyd gwyllt, wrth i anifeiliaid gael eu hanafu neu lyncu eitemau sydd wedi'u gadael ar ôl.

Meddai Jonathan Brittain-Hughes, Rheolwr Troseddau Amgylcheddol Cyngor Sir Ddinbych, "Rydym yn erfyn ar bobl i chwarae eu rhan wrth gadw Sir Ddinbych yn lân ac yn groesawus. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y peth iawn, ac rydym yn ddiolchgar i drigolion ac ymwelwyr sy'n mynd â'u sbwriel adref neu'n defnyddio'r biniau a ddarperir." 

Meddai’r Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  Rydym yn gweithio'n galed i leihau troseddau amgylcheddol ar draws Sir Ddinbych ac yn parhau i gymryd camau yn erbyn y rhai sy'n dewis gadael sbwriel yn ein cymunedau, gan fod hynny'n cael effaith wirioneddol ar ein strydoedd, ein mannau agored, ein bywyd gwyllt a'n cymunedau lleol. Pan fydd pobl yn dewis taflu sbwriel a bod tystiolaeth o hynny, gellir cymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi Rhybuddion Cosb Benodedig."

Mae dull gweithredu'r Cyngor yn canolbwyntio ar addysgu, atal a newid ymddygiad, ochr yn ochr â chymryd camau gorfodi priodol lle bo angen. Mae swyddogion yn gweithio gyda thrigolion, busnesau, ysgolion a grwpiau cymunedol i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am eu gwastraff a helpu i gadw Sir Ddinbych yn lân.

Anogir aelodau o'r cyhoedd hefyd i roi gwybod am faterion amgylcheddol a darparu gwybodaeth a allai gynorthwyo gydag ymchwiliadau.

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn parhau i fonitro ardaloedd ar draws y sir ac yn cymryd camau gorfodi priodol lle nodir troseddau amgylcheddol a lle mae tystiolaeth yn profi hynny.

Comments