Wythnos eithriadol ym mis Medi
Mae mis Medi erioed wedi bod yn fis eithriadol yn ein cefn gwlad wrth i’r cynhaeaf gael ei gasglu’n ddiogel, coed a dolydd yn dechrau troi’n lliwiau hydrefol, yr awyr yn cynnig palet llawn o arlliwiau, mwg coelcerthi’n aros yn awyr y nos a thawelwch croesawgar i ymwelwyr. Mae mis Medi yma fodd bynnag, yn addo i fod hyd yn oed yn fwy eithriadol!
Mae Teulu’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau wythnos o hyd (ac ychydig mwy), a chael eu hysbrydoli gan Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Prydain (AHNE).
Mae’r digwyddiadau yn dechrau ddydd Sadwrn 15 Medi ac yn parhau tan ddydd Sul 23 Medi, ac mae'r digwyddiadau i'w gweld ar http://www.landscapesforlifeevents.org.uk/.
I ddathlu’r Wythnos Eithriadol, mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arwain 3 taith gerdded ar hyd pob darn o Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen. Bydd y cyfanswm o 11 milltir yn cael eu cerdded dros dridiau. Bydd pob taith gerdded yn mynd allan ac yn dychwelyd ar lwybr llusgo'r gamlas sy'n wastad ac yn addas i bawb. Os byddwch yn cwblhau’r dair daith gerdded, byddwch yn teithio tua 22 milltir! Fel arall, mae rhai o’r teithiau’n hygyrch i o leiaf ddychwelyd rhan o’r ffordd ar gludiant cyhoeddus. Bydd y teithiau cerdded yn cael eu harwain gan Swyddog yr AHNE a’u cefnogi gan Gyfeillion Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (http://www.friends.cymru/).
Cliciwch ar y ddolen isod i lawrlwytho eich copi o ‘O Gwmpas’ http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/digwyddiadau/
TAITH 1 |
Dydd Llun 17 Medi |
Cyfarfod: 10am |
Maes Parcio Grîn Llantysilio (talu ac arddangos)
GR 198 433 (tua 8 milltir)
|
TAITH 2 |
Dydd Mercher 19 Medi |
Cyfarfod: 10am |
Tu allan i Ganolfan Wybodaeth y Draphont Ddŵr
Tua 6 milltir
|
TAITH 3 |
Dydd Gwener 21 Medi |
Cyfarfod: 10am |
Tu allan i Ganolfan Wybodaeth y Draphont Dŵr
GR 271 422 (tua 8 milltir)
|