llais y sir

Haf 2018

Monitro Gloÿnnod Byw

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod ar genhadaeth i fonitro ein gloÿnnod byw.Butterflies 1

Mae monitro gloÿnnod byw yn bwysig oherwydd y gellir defnyddio’r data a gesglir i fesur llwyddiant rheolaeth cynefinoedd lleol. Mae cylch bywyd gloÿnnod byw yn un cyflym iawn ac maent yn hynod sensitif i amodau amgylcheddol.  Mae eu dibyniaeth ar rywogaethau penodol o blanhigyn a chynefinoedd yn rhoi syniad da i ni o’r mannau lle mae angen i ni gyfeirio ein hymdrechion cadwraeth ac asesu llwyddiant gwaith cadwraeth sydd eisoes yn digwydd. 

Enghraifft dda o rywogaeth o löyn byw sy’n ddibynnol ar ei gynefin a’r rhywogaethau eraill yn y cynefin hwnnw yw’r glöyn byw glas cyffredin.

Bydd gloÿnnod yw cyffredin yn dodwy eu hwyau ar blanhigyn bwyd eu lindys, fel arfer y feillionen hopysaidd gyffredin. Ymhen tua 8 diwrnod bydd yr wyau yn deor a bydd y lindys yn bwydo ar y planhigyn hwn.

Tra bydd y lindys yn bwydo, bydd yn secretu melwlith sy’n denu morgrug. Yn gyfnewid am y cyflenwad cyson o felwlith bydd y morgrug yn diogelu’r lindys rhag ysglyfaethwyr.  Ar ôl tu 6 wythnos bydd y lindys yn troi’n grysalis ar y ddaear neu wrth droed ei blanhigyn bwyd.  Bydd morgrug sy’n dod o hyd i’r crysalis yn aml iawn yn ei gladdu, sydd unwaith eto yn ei ddiogelu rhag ysglyfaethwyr.

Ar ôl pythefnos bydd glöyn byw yn dod allan o’r crysalis fel oedolyn. Byddant yn paru a bydd y cylch yn dechrau eto. Dim ond am tua 3 wythnos y bydd glöyn byw o’r rhywogaeth hwn yn byw.

Heb y feillionen hopysaidd a’r morgrug ni fyddai’r math hwn o löyn byw yn gallu goroesi.

Mae arolygon gloÿnnod byw yn cael eu cynnal ym Mharc Gwledig Loggerheads a Gwarchodfa Natur Bryniau Prestatyn.Butterflies 2

Sefydlwyd llwybr arolygu Loggerheads ym mis Chwefror 2017 a chafodd ei fonitro drwy gydol y tymor. Cofnodwyd 22 o wahanol rywogaethau gyda 3 ohonynt yn Rhywogaethau Pwysig Iawn.

Sefydlwyd llwybr arolygu bryniau Prestatyn ddiwedd 2017. Cafodd pobl leol eu hyfforddi ac mae’r llwybr yn awr yn cael ei fonitro gan wirfoddolwyr.  Bydd y data a gesglir yn cael ei ddadansoddi ddiwedd tymor 2018. 

Y gobaith yw y caiff rhagor o lwybrau arolygu eu sefydlu yn yr AHNE gan wirfoddolwyr wedi’u hyfforddi. Mae dechrau cynnwys gwirfoddolwyr wedi gwneud yr arolygu yn fwy cynaliadwy ac wedi addysgu cynulleidfa newydd am bwysigrwydd ein gloÿnnod byw hardd.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn arolygu gloÿnnod byw yn eu hardal, cysylltwch â Vicky Knight trwy e-bost Vicky.knight@sirddinbych.gov.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...