Hyfforddiant Codi Waliau Cerrig Sychion
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut i godi waliau cerrig sychion?
Eleni fe fyddwn yn cynnal cyfres o gyrsiau hyfforddi am ddim i ddysgu sut i godi waliau cerrig sychion a sgiliau gwledig eraill, a hynny o ganlyniad i gyllid gan Cadwyn Clwyd.
Bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn cael eu cynnal yn ardal Corwen, ond byddant hefyd yn cael eu cynnal ar Foel Famau ac yn Rhuddlan. Byddant yn rhoi cyfle i ddechreuwyr llwyr neu rai sy’n fwy profiadol mewn codi waliau i ddod draw i hogi eu sgiliau. Bydd y cyrsiau’n cael eu harwain gan hyfforddwyr sydd wedi cymhwyso mewn codi waliau cerrig sychion a byddant fel arfer yn rhedeg am 3 diwrnod ar y tro – gallwch aros cyhyd neu am gyfnod mor fyr ag y dymunwch. Dewch â’ch cinio a’ch diodydd eich hun os gwelwch yn dda a sicrhewch fod gennych ddillad addas (gan gynnwys dillad glaw / hetiau). Dylid gwisgo esgidiau gyda blaen dur os yn bosibl.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Ros Stockdale os gwelwch yn dda ar 01824 712794 neu e-bostiwch ros.stockdale@sirddinbych.gov.uk
Mae’r prosiect LEADER hwn yn rhan o Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014 – 2020, sydd wedi ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.