llais y sir

Haf 2018

£90 miliwn o fuddsoddiad i ysgolion Sir Ddinbych

Mae buddsoddiad o £90 miliwn i ysgolion y Sir wedi gweld mwy na 3,500 o ddisgyblion yn elwa o gyfleusterau gwell.Matt\'s article on schools

Mae cam cyntaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a'r Cyngor wedi gweld ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu yn ogystal ag ail-ddatblygu sylweddol o safleoedd presennol gyda chwarter o ddisgyblion y sir yn gweld trawsnewid yn eu profiad addysgu.

Mae cam cyntaf y rhaglen wedi gweld ysgol newydd gwerth £24 miliwn gyda 1,200 o lefydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Y Rhyl ac Ysgol Tir Morfa, estyniad ac adnewyddu Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy gwerth £16.5m, a safle newydd ar y cyd gwerth £10.5 miliwn i Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.

Mae gwaith arall yn cynnwys estyniad ac adnewyddu saith ystafell ddosbarth gwerth £3.5m gydag ardal dderbynfa a neuadd newydd yn Ysgol Gymunedol Bodnant, Prestatyn yn ogystal ag estyniad ac adnewyddu tair ystafell ddosbarth gwerth £1.4m yn Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd.

Mae gwaith bellach wedi’i ddechrau ar y tri prosiect olaf yn y cam cyntaf, adeiladu ysgol newydd gwerth £5m i Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog, adeiladu ysgol newydd gwerth £5.3m i Ysgol Llanfair ynghyd â’r Ysgol Gatholig 3-16 yn y Rhyl gwerth £23m.

Mae ail gam o’r rhaglen genedlaethol sydd i’w ddechrau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf ar hyn o bryd yn y cam datblygu ar ôl i’r amlinelliad strategol gael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd.

Bydd y ffocws bellach ar ddatblygu prosiectau unigol am gyllid.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc: “Mae’r buddsoddiad wedi altro’r amgylchedd addysgu yn llwyr i filoedd o ddisgyblion. Mae dysgu disgyblion mewn ystafelloedd hen ffasiwn wedi hen fynd a bellach mae ganddyn nhw ardaloedd pwrpasol a newydd sy’n ateb y gofynion.

“Mae’r dystiolaeth eisoes yn dangos fod hyn wedi newid ymateb y disgyblion i ddysgu ac yn eu helpu nhw i gyflawni mwy nag erioed yn yr ysgol.

“Mae gwneud yn siŵr fod gan bobl ifanc y sgiliau cywir yn flaenoriaeth allweddol o'n Cynllun Corfforaethol a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ysgolion y sir wrth i ni edrych tuag at y cam nesaf o raglen Ysgolion y 21ain Ganrif gyda Llywodraeth Cymru.”

Mae contractwyr sydd wedi bod yn gweithio ar yr ysgolion sef Willmott Dixon, Reed Construction, Wynne Construction a Kier Construction wedi bod yn defnyddio cadwyni cyflenwi a gweithwyr lleol i wneud y gwaith.   Fel rhan o hynny mae yna bwyslais ar gaffael canran uchel o wariant o fewn yr ardal leol ac mae nifer fawr o isgontractwyr lleol yng Ngogledd Cymru wedi cael eu cyflogi i helpu gyda chyflawni’r prosiectau hyn. 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...