llais y sir

Haf 2018

Penderfyniad wedi'i wneud ar ddyfodol Canolfan Dydd Hafan Deg

Mae gweithrediad canolfan gofal dydd yn y Rhyl wedi’i drosglwyddo i ddarparwr gofal.Hafan Deg

Gwnaeth Cabinet y Cyngor gyfarfod ar 24 Ebrill i drosglwyddo’r gwaith o redeg Canolfan Dydd Hafan Deg, sy’n darparu gweithgareddau a grwpiau i’r henoed, i’r cynigydd a ffefrir ar gyfer y contract, KL Care.

Mae’r Cyngor wedi dilyn proses dendro i ddod o hyd i gontractwr a allai ddangos sut gallai gwasanaethau o Hafan Deg gynyddu nifer y bobl sy’n gallu aros yn eu cartrefi am gyfnod hwy, cynyddu nifer y bobl hŷn sy’n cael rhyngweithio cymdeithasol yn ogystal â’r mathau o wasanaethau sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth Sir Ddinbych: “Mae diogelu dyfodol Hafan Deg a chynyddu’r cyfleoedd a’r manteision i bobl hŷn sy’n defnyddio’r ganolfan yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Bydd trosglwyddo’r safle i’r cynigydd a ffefrir yn caniatáu parhad gwasanaethau gofal dydd yn yr adeilad a galluogi asiantaethau trydydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar i bobl hŷn sy’n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, cefnogi annibyniaeth a hyrwyddo cadernid.

“Dan ein Cynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi’i gwneud yn flaenoriaeth i gefnogi unigolion i ddatblygu cadernid, gan eu galluogi i aros adref, wedi’u cysylltu â’u cymunedau a’u cefnogi mewn amgylchedd deniadol ac mae diogelu a gwella gwasanaethau yn Hafan Deg yn helpu preswylwyr i wneud hynny.”

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y safle eisoes, ac roedd ymatebion yn bwydo i mewn i gynlluniau.

Fel rhan o fanyleb y contract, disgwylir i’r darparwr ddatblygu Fframwaith Sicrhau Ansawdd cadarn a bydd y Cyngor yn gofyn am adborth gan deuluoedd, budd-ddeiliaid a staff.

Mae’r cytundeb am ddechrau o Mis Medi.

Mae KL Care Limited yn ddarparwr gofal cartref wedi’i gymeradwyo gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ardaloedd Sir Ddinbych a Chonwy.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...