Arolwg trigolion – diolch yn fawr iawn
Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i'r rhai ohonoch a gwblhaodd ein harolwg trigolion.
Ymatebodd mwy na 2,500 ohonoch ar nifer o faterion, gan gynnwys ansawdd gwasanaethau'r cyngor, byw mewn cymunedau ac adborth ar eich profiadau o ddelio â'r Cyngor.
Mae'r canlyniadau bellach yn cael eu dadansoddi a byddwn yn cyhoeddi'r canfyddiadau ar ôl yr haf.