llais y sir

Haf 2018

Barbiciws

Sut i baratoi bwyd yn gywir, osgoi halogiad a choginio bwyd yn iawn ar gyfer eich barbiciws.Food Standards Agency

Haf yw’r amser perffaith i fwynhau barbiciw gyda theulu a ffrindiau. Mae angen i chi sicrhau fod bwyd yn cael ei storio a’i goginio'n ddiogel.

Gall tywydd cynnes a choginio yn yr awyr agored gynhyrchu’r amodau cywir ar gyfer y bacteria sy’n achosi gwenwyn bwyd.

Felly mae’n hanfodol eich bod yn cofio am y 4 rheol hylendid bwyd:

  • oeri
  • glanhau
  • coginio
  • croeshalogi

Rydym wedi casglu rhywfaint o gyngor i’ch helpu i weini barbiciw anhygoel wrth gadw eich gwesteion yn ddiogel.

Oeri a dadmer BBQ2

Mae oeri bwyd yn iawn yn helpu i atal bacteria niweidiol rhag tyfu, yn enwedig yn ystod misoedd cynnes yr haf.

I gadw eich bwyd yn ddiogel:

  • peidiwch â dadmer bwydydd ar dymheredd ystafell
  • sicrhewch eich bod yn dadmer bwyd dros nos yn yr oergell, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan ddefnyddio microdon ar y gosodiad dadmer yn syth cyn coginio
  • oerwch fwydydd wedi’u coginio ar dymheredd ystafell ac yna ei roi yn yr oergell o fewn un i ddwy awr
  • storiwch fwydydd amrwd ar wahân i fwydydd parod i’w bwyta, wedi’u gorchuddio ar silff waelod eich oergell
  • cadwch fwydydd oer allan o'r oergell am y cyfnod byrraf posibl yn ystod y gwaith paratoi
  • cadwch unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio erbyn, prydau wedi’u coginio, salad a phwdinau parod yn oer ac allan o’r haul tan yr amser gweini
  • peidiwch â gorlenwi eich oergell, mae hyn yn caniatáu aer i gylchredeg a chynnal y tymheredd sydd wedi’i bennu

Mae angen cadw rhai bwydydd yn yr oergell i helpu i arafu twf bacteria, a chadw bwyd yn ffres ac yn ddiogel am fwy o amser. Defnyddiwch thermomedr oergell i wirio bod y tymheredd o dan 5°C gan nad yw’r deialau bob amser yn dangos y tymheredd cywir i chi.

Coginio

Bydd coginio bwyd ar y tymheredd cywir am yr amser cywir yn sicrhau y bydd unrhyw facteria niweidiol yn cael eu lladd. Buddsoddwch mewn chwiliedydd tymheredd fel y gallwch sicrhau eich bod yn coginio’r bwyd ar o leiaf 75°C am 30 eiliad.

Peidiwch ag anghofio, nid yw'r ffaith bod bwyd wedi'i olosgi'n golygu ei fod wedi coginio ar y tu mewn bob amser. Cyn gweini cig rydych wedi’i goginio ar y barbiciw, gwiriwch:

  • fod y cig yn stemio’n boeth drwyddo draw
  • nad oes unrhyw gig pinc i’w weld pan dorrwch i’r darn mwyaf trwchus
  • bod y suddion yn rhedeg yn glir

Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion wedi’u gwneud o friwgig fel:

  • byrgers
  • selsig
  • cebabs
  • cyw iâr
  • porc

Ystyriwch goginio'r holl gyw iâr a phorc yn y popty yn gyntaf, gan ei orffen ar eich barbiciw ar y diwedd. Bydd eich teulu a'ch ffrindiau'n dal i brofi'r blas barbiciw arbennig hwnnw, ac rydych yn gwybod eich bod wedi coginio'r cig drwyddo draw.

BBQ1Cofiwch nad yw byrger fel stêc

Pam nad yw byrger fel stêc

Gellir cludo bacteria niweidiol ar wynebau darnau cyflawn o gig. Pan fydd stêc amrwd yn cael ei serio, mae’r bacteria hyn yn cael eu lladd, gan wneud y stêc yn ddiogel i’w bwyta.

Pan gaiff cig ei droi’n friwgig i gynhyrchu byrgers, mae unrhyw facteria niweidiol o wyneb y cig amrwd yn lledaenu drwy'r byrger. Oni bai bod y byrger yn cael ei goginio drwyddo draw, mae'r bacteria hyn yn aros yn fyw ar y tu mewn. Mae hyn yn gymwys i bob byrger, gan gynnwys byrgers wedi’u gwneud o gig drud neu o ansawdd da.

Glanhau

Mae glanhau effeithiol yn cael gwared ar facteria ar ddwylo, cyfarpar ac ar arwynebau, gan helpu i atal bacteria niweidiol rhag lledaenu ar fwyd.

Helpwch i leihau’r risg o germau’n lledaenu drwy:

  • olchi dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth cyn coginio a bwyta, yn enwedig os ydych wedi bod yn trin cig amrwd neu bethau fel tanwyr
  • cadw llestri a dysglau gweini'n lân wrth baratoi bwyd a sicrhau nad ydych yn eu cymysgu gyda'r rhai a ddefnyddiwyd i baratoi prydau amrwd a barod i'w bwyta
  • peidio â golchi unrhyw gyw iâr amrwd neu unrhyw gig arall - mae’n tasgu germau ar eich dwylo, llestri ac wynebau gweithio

Osgoi croeshalogiad

Mae croeshalogiad yn fwyaf tebygol o ddigwydd pan mae bwyd amrwd yn cyffwrdd neu'n diferu ar fwyd parod, llestri neu arwynebau.

Gallwch atal hyn drwy:

  • storio cig amrwd ar wahân i fwydydd parod
  • defnyddio llestri, platiau a byrddau torri gwahanol ar gyfer bwyd amrwd ac wedi’u coginio
  • golchi eich dwylo ar ôl cyffwrdd cig amrwd a chyn i chi drin bwyd parod

Deall gwenwyn bwyd

Mae llawer o bobl yn meddwl mewn camgymeriad mai dim ond byg dros dro yw gwenwyn bwyd, ond fe all fod yn ddifrifol iawn.

Mae’r rhan fwyaf o bobl gyda gwenwyn bwyd yn gwella adref, heb fod angen triniaeth benodol.  Os ydych yn meddwl fod gennych wenwyn bwyd, fe’ch cynghorir i fynd i weld eich Meddyg Teulu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r tudalennau Diogelwch Bwyd ar www.sirddinbych.gov.uk 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...