llais y sir

Haf 2018

Rhannwch eich bywyd a gwnewch wahaniaeth – fel gofalwr

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig a gofalgar a hoffai fod yn ofalwyr.

Mae’r Cynllun Rhannu Bywydau yn darparu cefnogaeth ychwanegol ym mywydau dyddiol pobl mewn angen – gydag anableddau cymhleth, problemau iechyd meddwl, anableddau corfforol, neu nam ar y synhwyrau sy’n effeithio eu bywydau.

Gall y gofalwyr fod yn unigolion, cyplau neu deuluoedd sy’n byw o fewn y sir gydag ystafell wag yn eu cartref.  Mae staff ymrwymedig yn rhan o’r cynllun, sy’n darparu cefnogaeth ymarferol, cyngor a chyfarwyddyd i ofalwyr Rhannu Bywydau. Bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu a bydd gofalwyr yn cael tâl.

Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth: Mae hwn yn gyfle gwych i godi proffil y cynllun gwerthfawr hwn.  Nod Rhannu Bywydau yw chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r rhai yn ein cymunedau sydd wir angen cymorth. Byddai profiad o weithio yn y sector gofal yn ddefnyddiol ond nid yw’n ofynnol – mae brwdfrydedd yr un mor bwysig.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn Ofalwr Rhannu Bywydau neu’r rhai a hoffai wybod mwy, ddod draw i’r digwyddiad diwrnod agored neu gysylltu ag Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych a gofyn am gael siarad gyda Cydlynydd Cynllun Rhannu Bywydau.  Gallwch ysgrifennu atynt neu ymweld â nhw yn: Un Pwynt Mynediad, Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, Tŷ Russell, Ffordd Churton, LL18 3DP; rhif ffôn: 0300 456 1000. E-bost:  spoa@sirddinbych.gov.uk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...