Ydych chi’n ystyried ymgymryd â gwaith adeiladu?
Os yw eich prosiect yn un mawr neu’n un bach, cysylltwch â gwasanaeth Rheoli Adeiladu'r Cyngor Sir a fydd yn fodlon eich helpu.
Rydym yn cynnig:
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio i helpu’ch prosiect redeg yn esmwyth
- Gwybodaeth am yr ardal leol, hanes safleoedd ac amodau daearegol
- Syrfëwr rheoli adeiladu ymrwymedig a thîm cefnogi technegol
- Mynediad i swyddog ar ddyletswydd rheoli adeiladu yn ystod oriau swyddfa, ddydd Llun i ddydd Gwener
- Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdod tân lleol a’r awdurdod dŵr i’ch cynorthwyo chi a’ch prosiect
- Yn wahanol i ddarparwyr eraill, rydym yn arolygu gwaith adeiladu yn ystod pob cam angenrheidiol i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safonau gofynnol
- Cynhelir archwiliadau safle y diwrnod ar ôl i ni dderbyn eich cais, os derbynnir y cais cyn 4pm
- Fel awdurdod lleol rydym ni’n atebol yn gyhoeddus, yn amhleidiol, yn dryloyw ac yn sefydliad nid-er-elw. Mae ein ffioedd wedi eu cyhoeddi ac nid oes unrhyw gost gudd ychwanegol
- Byddwn yn darparu tystysgrif cwblhad i chi ar ddiwedd eich prosiect.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ni ar 01824 706717.