llais y sir

Llais y Sir 2019: Rhifyn 5

Gwaith yn dechrau ar ganolfan i entrepreneuriaid

Bydd hen dafarn yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan gydweithio i entrepreneuriaid.

Mae'r Cyngor wedi cael £312,000 trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a gan Lywodraeth Cymru i greu’r swyddfeydd yn hen adeilad Costigans ar Stryd Bodfor, Y Rhyl.

Dechreuodd gwaith ar y safle ar 21 Hydref i greu lle i tua 20 o fusnesau newydd mewn swyddfeydd hyblyg gyda lle i gynnal digwyddiadau a siop goffi ar y safle.

Mae Costigans yn eiddo i’r Cyngor, sydd wedi adnewyddu’r tu allan ar ôl ei brynu yn dilyn difrod a achoswyd gan dân.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Yn rhan o’n gwaith i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer canol tref y Rhyl, bydd yr adeilad yn cael ei droi’n swyddfeydd cydweithio modern efo lle i siop goffi.

“Bydd yn cynnig lle creadigol a hyblyg i weithio gyda band eang cyflym iawn, iawn, i gefnogi ac annog cenhedlaeth newydd o fusnesau bach i sefydlu yng nghanol y dref neu ei ddefnyddio fel eu prif ganolfan.

“Rydyn ni eisiau creu lle i bobl ifanc gymryd eu camau cyntaf fel perchnogion busnes a helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i gychwyn. Rydyn ni eisiau cefnogi pob person ifanc i gyflawni eu potensial ac mae’r prosiect yma’n ategu hynny.”

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan y rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog dros Dai a Llywodraeth Leol: “Drwy ein rhaglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, rydym yn ymrwymo i sicrhau newid economaidd hirdymor.

“Mae ein cyllid ar gyfer adfywio yn helpu i roi hwb i gyflogaeth leol, yn ogystal â mynd i’r afael â blaenoriaethau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

“Bydd yr hen adeilad eiconig sydd wedi gwasanaethu’r gymuned ers cyhyd yn derbyn gweddnewidiad, ac edrychaf ymlaen at weld y ganolfan hon yn datblygu a thyfu.

“Bydd yn galluogi pobl leol i ddod at ei gilydd a gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol y gymuned a denu cenhedlaeth newydd o fusnesau bychain i ganol y dref.”

Bydd y Cyngor yn chwilio am denant i gymryd yr adeilad a rhedeg y swyddfeydd.

Mae’r prosiect yn rhan o’r ddogfen sy’n nodi’r Weledigaeth ar gyfer y Rhyl, sy’n ceisio helpu i greu cyfleoedd i’r gymuned leol siapio eu tref a datblygu uchelgais, gan ddod â busnesau newydd a chwsmeriaid i ganol y dref.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...