llais y sir

Llais y Sir: Mai 2023

Safle yn rhoi hwb i fusnesau gyda chludiant gwyrdd

Mae safle gwefru cerbydau trydan yn Sir Ddinbych yn rhoi help llaw i fusnesau lleol sy’n ceisio newid i ddefnyddio dulliau teithio mwy gwyrdd.

Ddechrau mis Rhagfyr 2022, agorwyd safle gwefru maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel, y Rhyl.

Cafodd y safle i 36 o gerbydau, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ei greu yn dilyn llwyddiant gosod pwyntiau gwefru ym maes parcio Rhodfa’r Brenin ym Mhrestatyn.

Mae’r cyfleuster yn gyfuniad o fannau gwefru 7kwh ‘cyflym’ ar gyfer trigolion lleol sydd heb le i barcio oddi ar y stryd, a mannau gwefru 50kw ‘chwim’ i wefru ar frys ac i annog cwmnïau cludiant lleol i ddefnyddio cerbydau trydan drwy beidio ag amharu gormod ar eu hamser gweithio.

Eglurodd Luke Packer o A&J Taxis, a sefydlwyd ym 1996, fod y safle gwefru wedi rhoi hwb i ymgyrch y busnes i ddarparu cludiant gwyrdd yn y Rhyl a’r cyffiniau.

“Ni sydd â’r dewis mwyaf o gerbydau trydan a hybrid yn yr ardal. Cerbydau hygyrch sy’n rhedeg gant y cant ar drydan, cerbydau uwchraddol sy’n rhedeg gant y cant ar drydan, sawl cerbyd hybrid.  Rydyn ni bellach yn prynu ein hail genhedlaeth o geir trydan.”

“Mae’r safle gwefru newydd yn y maes parcio yn ein galluogi ni i wefru’n chwim yn ystod y diwrnod gwaith, fel bod y batris yn llawn a’n bod ni bob amser yn barod i fynd.”

Yn ogystal â chefnogi busnesau, eglura Luke fod y safle’n ddefnyddiol i gymuned gyfan y Rhyl.

Ychwanegodd: “I’r rheiny heb ddreif o flaen eu tai, mae’r safle’n cynnig ffordd iddyn nhw wefru eu cerbyd; i’r rheiny sy’n defnyddio ein trenau, mae’r safle’n gadael iddyn nhw wefru eu ceir tra byddan nhw i ffwrdd am y diwrnod.

“Mae’r safle’n cynnig manteision i’r bobl hynny sydd eisiau gwefru’n araf (sy’n gadel y car yno am y diwrnod neu dros nos) a hefyd ar gyfer y bobl hynny sydd angen gwefru ar frys… ni, gyrwyr faniau danfon a thacsis eraill er enghraifft.

Mae Guto Lloyd-Davies, Cyfarwyddwr cwmni gwasg print, o’r farn bod y safle’n rhoi hwb i fusnesau sydd eisiau lleihau eu hôl troed carbon ac i nifer cyffredinol yr ymwelwyr â’r dref.

Yn masnachu ers 1974 fel busnes teulu, gyda Guto a’i wraig yn ei redeg ers y 12 mlynedd diwethaf, mae’r cwmni argraffu yn y Rhyl wedi dod yn gyfystyr â chynaliadwyedd.

Mae mentrau ystyriol o’r amgylchedd y busnes yn cynnwys defnyddio papur a chardfwrdd gan gyflenwyr sy’n delio â choedwigoedd a reolir yn gynaliadwy yn unig; gosod paneli PV ar y safle i gynhyrchu trydan; ers 2001, mae pob papur, cardfwrdd, metel a phlastig gwastraff yn cael ei ailgylchu gan Gyngor Sir Ddinbych; ers 2018, maen nhw wedi defnyddio car Nissan Leaf sy’n rhedeg 100% ar drydan ac yn 2021, fe ychwanegon nhw Skoda Enyaq iV60 sydd eto’n rhedeg 100% ar drydan.

Dywedodd: “Fy ngwraig a minnau yw perchenogion gwasg print, sef cwmni argraffu a dylunio cyffredinol sydd wedi bod yn masnachu yng nghanol y dref ers 1974. Mam a Dad gychwynnodd y busnes ac fe gefais i fy magu uwch ben ein hen siop ar Stryd Cinmel. Dros y 12 mlynedd diwethaf, ni sydd wedi bod yn berchen ar y busnes ac rydym ni’n brysurach nag erioed.

Newidiodd y ddau i ddefnyddio cerbydau trydan er mwyn helpu’r amgylchedd a hefyd i fanteisio ar yr arbedion cost y maen nhw’n eu cynnig.

Eglurodd Guto: “Fe werthom ni’n hen fan diesel yn ôl ym mis Awst 2018 a phrynu ein cerbyd trydan cyntaf, sef y Nissan Leaf. Roeddwn i eisiau newid am resymau ecolegol… ond roedd yr arbedion ariannol yn gwbl amlwg.

“Yn 2021 fe brynom ni Skoda Enyaq, felly mae gennym ni ddau gerbyd trydan yn rhan o’r busnes bellach. Rydw i wastad yn barod i bwysleisio pa mor hwylus yw ceir trydan – rydym ni’n gwefru ein ceir gartref dros nos fel arfer, ac fe allwn ni bellach wefru ar frys yn hwylus mewn safleoedd fel yr un ym maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel.”

O edrych tua’r dyfodol, mae’r perchennog busnes teulu yn teimlo y bydd cael safle gwefru ar stepen y drws yn rhoi hwb i fusnesau eraill hefyd.

Ychwanegodd: “Gan fod y safle gwefru yn gymaint o atyniad i unrhyw un sy’n ymweld â’r dref, mae eisoes wedi gwneud maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel yn brysurach… ac mae’n siŵr o fynd yn brysurach fyth wrth i fwy o bobl ddechrau defnyddio cerbydau trydan. Mae unrhyw un sy’n defnyddio’r mannau gwefru araf yn mynd i fynd am dro, picio am baned neu damaid i’w fwyta neu fynd i siopa tra bod eu cerbydau’n gwefru, felly mae’r cynnydd yn nifer yr ymwelwr yn siŵr o fod yn beth da!”

Eglurodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, fod y safle yn cynnig cymorth i fusnesau yn yr ardal leol i gymryd cam tuag at ddefnyddio cludiant mwy gwyrdd.

Dywedodd: “Mae’n wych gweld sut mae’r cyfleuster hwn yn helpu cwmnïau tacsi lleol fel A&J Taxis i redeg fflyd fwy gwyrdd. Mae ein hymgyrch i leihau ôl troed carbon Sir Ddinbych yn cynnwys helpu busnesau, ac mae’r safle yn chwarae rhan yn hynny o beth.

“Edrychwch ar safle maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel… mae’n chwarae rhan amlbwrpas gadarn o ran rhoi mwy o gefnogaeth i fusnesau’r Rhyl ac atyniadau’r dref. Mae yna gyfleoedd i fusnesau fuddsoddi mewn cerbydau mwy gwyrdd a’u gwefru nhw yma heb orfod poeni am osod mannau gwefru ar eu safleoedd.

“Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd gwych i fusnesau lleol o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref, gan y gall pobl sy’n gwefru eu cerbydau yma fynd i’r siopau a’r sefydliadau sydd yn union gerllaw’r safle, ac fe fyddwn i’n eu hannog i ymweld â’r Rhyl wrth wneud hynny.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...